Nadine Dorries
Mae’r Aelod Seneddol wnaeth ymddangos ar y rhaglen teledu I’m a Celebrity…Get me out of Here wedi gorfod ymddiheuro i Dŷ’r Cyffredin am beidio â datgan yn briodol ei henillion am ei gwaith cyfryngol.
Mewn datganiad byr dywedodd AS Canol Swydd Bedford Nadine Dorries ei body n “ymddiheuro’n llawn” am dorri rheolau Tŷ’r Cyffredin “yn anfwriadol”.
Canfu Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin y dylai wedi datgan ei henillion am ei gwaith gyda’r cyfryngau a chafodd ei beirniadu gan y pwyllgor am beidio cydweithredu ag ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau Seneddol, Kathryn Hudson.
Roedd Nadine Dorries wedi gwrthod datgan faint yr oedd wedi cael ei thalu am ymddangos ar y rhaglen realaeth fis Tachwedd y llynedd gan honni y byddai’n torri cymal cyfrinachedd ei chytundeb gyda chwmni ITV.
Ond penderfynodd y pwyllgor fod yn rhaid iddi ddatgan bob taliad ac ymddiheuro i Dŷ’r Cyffredin.