Mae cyfarwyddwr ffilm newydd Brad Pitt wedi “ymddiheuro o waelod calon” am ffilmio golygfeydd rhyfel Natsïaidd yn Lloegr ar Sul y Cofio.

Er bod Cyngor Watlington yn Swydd Rhydychen wedi gofyn i gynhyrchwyr y ffilm Fury beidio â ffilmio dros y penwythnos, fe anwybyddodd y cyfarwyddwr, David Ayer, eu cais.

Roedd rhaid i drigolion y pentref glywed ffrwydradau a golygfeydd o frwydro gan actorion wedi gwisgo fel Natsïaid wrth i ddigwyddiadau i gofio’r rhyfel fynd yn eu blaen.

Dywedodd David Ayer ar y we: “Rwy’n ymddiheuro o waelod calon am unrhyw amarch ar Sul y Cofio. Mae hi’n fraint cael ffilmio yng ngwledydd Prydain.”