Mae dyn o Sir Gaerloyw wedi nofio 900 milltir o Land’s End i John O’Groats, gan ddod y person cynta’ i gyflawni’r gamp.

Dechreuodd Sean Conway, 32 oed, o Cheltenham ei orchest yng Nghernyw ar 30 Mehefin n eleni.

Dioddefodd bigiadau gan y sglefren-fôr a dŵr rhewllyd cyn cyflawni’r daith.

Cododd Sean Conway £6,000 ar gyfer yr elusen War Child wrth gyrraedd pen ei daith yn John O’Groats yn yr Alban.