Bydd mamau yn cael eu talu i fwydo eu babis o’r fron mewn prosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Sheffield.

Bwriad y prosiect yw darganfod os fydd nifer y rhai sy’n bwydo o’r fron yn cynyddu oherwydd cymhelliant ariannol, gan fod ffigyrau andros i isel mewn rhai rhannau o wledydd Prydain.

Mamau o Swydd Efrog a Swydd Derby fydd yn cael eu monitro gyntaf, ac mi fydden nhw’n cael cynnig tocynnau ar gyfer hyd at £120 o nwyddau o John Lewis, Matalan, Mothercare neu archfarchnadoedd.

Bydd y cyfnod cyntaf o’r ymchwil yn canolbwyntio ar 130 o famau sydd wedi rhoi genedigaeth rhwng mis Tachwedd a Mawrth ac os yw’r prosiect yn llwyddiannus, bydd ymchwil cenedlaethol yn cael ei gynnal.