Fe gwympodd chwyddiant i’w lefel isaf ers blwyddyn yn ystod mis Hydref. Yn ôl ffigyrau swyddogol sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, mae’r gyfradd bellach wedi plymio i 2.2%.
Roedd cwymp o 4.9c, ar gyfartaledd, ym mhrisiau petrol, ynghyd â llai o gyfraniad i ffïoedd dysgu, wedi bod yn help i’r gyfradd gwympo o’r 2.7% ym mis Medi.
Doedd llywodraeth San Steffan ddim wedi disgwyl cymaint â 0.5% o ostyngiad, ond mae’r lefel bellach ar ei isaf ers mis Medi 2012.
Cyn hynny, doedd yna ddim gostyngiad wedi bod yn y lefel ers Tachwedd 2009.