Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru ac yr economi
Mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu banc cyhoeddus Cymreig.
Fe gyflwynodd Plaid Cymru dystiolaeth i’r Comisiwn ar gyllido BBaCh (Busnesau Bach a Chanolig) yn datgan eu cynigion, yn galw ar i’r llywodraeth weithredu er lles busnesau Cymru ac i sefydlu corff newydd allai fenthyg arian i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol.
Cafodd y syniad am fanc Cymreig ei gyflwyno am y tro cyntaf gan Leanne Wodd yn y Cynllun C ym mis Mai 2013, er mwyn annog twf economaidd a galluogi busnesau ledled Cymru i ffynnu.
Rhwystr
Dywedodd y Gweinidog cysgodol ar yr Economi, Alun Ffred Jones, fod ymdrechion presennol y Llywodraeth yn rhwystro BBaCh rhag tyfu:
“Mae hyd at 99% o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig – dylai hyn roi’r holl symbyliad y mae Llywodraeth Cymru angen i weithredu er lles busnesau Cymru.
“Mae safbwynt Plaid Cymru yn glir. Mae arnom angen corff newydd, ym meddiant y cyhoedd ond bellter hyd braich oddi wrth y llywodraeth i fenthyca arian i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol.
“Mae sicrhau llif arian i fusnesau, yn enwedig busnesau bach, yn allweddol o ran creu gwaith a chadw olwynion yr economi’n troi. Mae’n hanfodol i’n BBaCh allu cyrraedd yr adnoddau mae arnynt eu hangen er mwyn gweithredu’n effeithiol a ffynnu fel y gall economi Cymru dyfu eto.”