Nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa’ yn cyd-fynd â’i rhaglen hi ei hun, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ei chyllideb drafft a gafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Hydref, mae’r Llywodraeth wedi hawlio fod y gyllideb am roi pwyslais i “swyddi a thwf”. Ond mae’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu fod mwy o arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Mae’r Pwyllgor am i flaenoriaethau’r Llywodraeth gael eu hadlewyrchu a’u gwneud yn gliriach yng nghynigion y gyllideb.

Diffyg manylder

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu hefyd fod diffyg manylion am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth bresennol a deddfwriaeth sydd i ddod, ac mae wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i ystyried y mater yn fanwl.

Meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae’n ymddangos bod y gyllideb ddrafft a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn groes i’r flaenoriaeth a nodwyd ganddi, sef ‘swyddi a thwf,’ gan ymrwymo mwy o gyllid i wasanaethau iechyd.

“Rydym yn pryderu hefyd fod diffyg gwybodaeth ariannol am gyfreithiau sydd eisoes wedi dod i rym neu rai a fydd yn dod i rym dros y flwyddyn nesaf.

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 22 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

* Rydym yn croesawu’r gwelliannau i’r modd y caiff y gyllideb ei chyflwyno, sy’n adeiladu ar waith a ddechreuwyd y llynedd. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai’r gwaith hwn barhau i ddatblygu tryloywder o ran yr aliniad rhwng dyraniadau’r gyllideb a’r Rhaglen Lywodraethu;

* Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mwy o dryloywder ynglŷn â phenderfyniadau i ail-flaenoriaethu. Dylid rhoi’r un faint o dryloywder i doriadau ag i ddyraniadau ychwanegol, a;

* Dylai’r Pwyllgor Cyllid gynnal ymchwiliad i oblygiadau ariannol deddfwriaeth a basiwyd yn flaenorol gan y Cynulliad, a sut y mae hyn yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb drwy ddweud y byddan nhw’n ystyried argymhellion y Pwyllgor ac yn ymateb o fewn da bryd.