Bydd dyn yn ymddangos gerbron llys heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 45 oed a gafodd ei ganfod yn anymwybodol mewn maes parcio.

Fe wnaeth rhywun ymosod ar Tim Clayton yn Folkestone yn ystod oriau mân bore Sadwrn, Tachwedd 9. Fe gafodd ei gludo i ysbyty’r Royal London gydag anafiadau i’w ben, ond bu farw ddydd Sul.

Fe gafodd Brian Sharp, 54, o Folkestone, ei gyhuddo o lofruddiaeth neithiwr, ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa. Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Folkestone heddiw.

Mae dyn 25 oed o Folkestone, a gafodd ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Dachwedd 28.

Mae dau ddyn arall, 28 a 38 oed, a gafodd eu haresio ddydd Sul ar amheuaeth o ymosod, wedi cael eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.

Ac mae dyn 44 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Rhagfyr 6, tra bo’r ymchwiliad yn parhau.