Mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno mewn egwyddor i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r sir yn 2016. Fe fydd hi’n ychydig dros ganrif ers i’r Eisteddfod gartrefu yno y tro diwethaf yn 1913.
Mae’r penderfyniad mewn egwyddor yn galluogi’r cyngor i ddechrau trafod yn ffurfiol gyda’r Eisteddfod ynglyn â lleoliad a ffyrdd o godi arian.
Daw’r cyhoeddiad wythnosau ar ôl i’r tasglu a gafodd ei sefydlu i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, ddod i’r farn y dylai’r ŵyl barhau i deithio i wahanol ardaloedd bob blwyddyn.
Manteision
Yn ôl y cynghorydd Phyl Hobson, aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg, bydd Sir Fynwy yn gweld budd mawr o groesawu’r Eisteddod:
“Bydd yn rhoi hwb o filiynau o bunnau i’n heconomi; bydd yn ein rhoi ar y llwyfan Cymreig a rhyngwladol dros gyfnod yr wyl; bydd yn dod â ffigurau dylanwadol o Gymru a rhyngwladol i’n sir, a chawn waddol ddiwylliannol, economaidd a seilwaith fydd yn ein gwasanaethu am genedlaethau i ddod.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor:
“Mae Sir Fynwy yn rhan gyfannol o Gymru. Rydym yn borth i Gymru, rydym yn gyfrifol am gyfran sylweddol o dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl, ac roeddem yn un o ddim ond dwy ran o Gymru lle bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad diwetha’.
“Fel arweinydd y cyngor, edrychaf ymlaen at weld y maneision a ddaw yn sgil yr wyl. Rwyf hefyd yn falch y gallwn arddangos ein sir, ac ar yr un pryd arddangos diwylliant ein gwlad.”