Mae Carwyn Jones, wedi galw ar bobol Cymru i wneud unrhyw gyfraniad posib i gefnogi’r miliynau o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y Teiffŵn Haiyan yn y Philippines.

Cafodd apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau ei lansio heddiw a dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r teiffŵn wedi cael effaith drychinebus ac mae maint yr argyfwng yn enfawr. Effeithiwyd ar fwy na naw miliwn o bobl gan y teiffŵn ac maen nhw nawr yn cael anhawster i ymdopi heb fwyd, cysgod na dŵr yfed glân.

“Cadarnhawyd eisoes bod cannoedd o bobl wedi marw, ac mae’n debygol y bydd y nifer yn parhau i godi”.

Cefnogaeth

Cafodd 10,000 eu lladd yn ninas Tacloban yn unig wrth i wyntoedd ffyrnig ddymchwel adeiladau ac achosi tonnau enfawr hyd at 20 troedfedd o uchder. Mae’r teiffŵn bellach yn gwneud ei ffordd drwy Fietnam, ond erbyn hyn wedi gwanhau ac yn cael ei galw’n storm drofannol.

“Mae pobl Cymru wedi dangos haelioni sylweddol i apelau’r Pwyllgor Argyfyngau yn y gorffennol, ac rwy’n annog pawb i ddangos eu cefnogaeth unwaith eto i helpu’r miliynau o bobl sy’n dioddef yn y Philippines.”

Gellir gwneud cyfraniad i’r Apêl drwy:

* wefan y Pwyllgor Argyfyngau www.dec.org.uk

* ffonio llinell gymorth 24 awr ar 0370 60 60 900

* rhoi eich cyfraniad dros y cownter mewn unrhyw fanc neu swyddfa bost