Mae dyn a gyhoeddodd sylwadau sarhaus am April Jones ar y we, wedi ymddangos yn y llys.

Fe wnaeth Gordon Mullen, 24, o Salcoats yn yr Alban ei sylwadau ar wefan gymdeithasol Facebook ar ôl i’r ferch bump oed o Fachynlleth fynd ar goll ar Hydref 1, 2012.

Brynhawn ddoe, fe blediodd yn euog i dorri’r Ddeddf Gyfathrebu, pan ymddangosodd yn Llys y Siryf, Kilmarnock.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu y mis nesa’.