Malala Yousafzai
Roedd yno seren bop, actores deledu, rhai siwpermodels, ac un o wleidyddion mwya’ pwerus y byd a allai fod yn mynd am swydd arlywydd yn o fuan…

Ond, o’r holl ferched amlwg ar lwyfan noson wobrwyo Glamour Women of the Year yn Efrog Newydd, chafodd neb fwy o groeso na’r ferch yn ei harddegau o Bacistan, Malala Yousafzai.

“Rydan ni’n dy garu di, Malala!” gwaeddodd grwp o ferched ifanc o falconi yn Neuadd Carnegie, lle cynhaliwyd y digwyddiad. Fe gawson nhw gusan yn ôl, cyn i’r ferch fynd ati i roi ei haraith.

“Dw i ddim yn credu fod gan y gwn unrhyw rym o gwbwl,” meddai’r ferch 16 oed a ddaeth i sylw’r byd wedi i’r Taliban ei saethu hi yn ei phen ym mis Hydref 2012. Roedd hi wedi beirniadu’r ffordd yr oedden nhw’n dehongli crefydd Islam.

Mae hi wedi bod yn arbennig o feirniadol o’r modd y maen nhw’n ceisio cyfyngu ar fynediad merched at addysg.

“Does gan y gwn ddim grym o gwbwl, oherwydd yr unig beth all gwn ei wneud ydi lladd,” meddai hi wedyn. “Gall y gwilsen, a geiriau, roi bywyd.”