Mae 29 o bobol wedi’u lladd wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad â lori yn nwytain De Affrica.
Mae dwsinau o bobol wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i ysbyty gerllaw yn nhalaith Mpumalanga.
Mae damweiniau ffordd yn reit gyffredin yn y wlad, ac yn aml mae’r bai’n cael ei roi ar yrwyr diofal a ffyrdd gwael.
Ar Fawrth 24 eleni, bu farw 24 o bobol pan wyrodd bws oddi ar y ffordd a rowlio drosodd ger De Doorns ger Cape Town.