Fe fydd ymladdwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn streicio am y pedwerydd tro yfory, mewn anghydfod ynglyn â phensiynau. Maen nhw’n cyhuddo llywodraeth San Steffan o roi cynigion gwaeth gerbron y trafodaethau.

Fe fydd aelodau o Undeb y Frigad Dân (FBU) yn cerdded allan am 10am fore Mercher, Tachwedd 12, gan orfodi’r gwasanaeth tân i gyflogi contractwyr i wneud eu gwaith.

Yn ôl yr undeb, fyddai ymladdwyr tân sy’n cael eu gorfodi i ymddeol yn 60 oed yn derbyn pensiynau o ddim ond £9,000 y flwyddyn o ganlyniad i gynigion diweddara’r Llywodraeth.