Mae cyfreithwyr ar ran un o’r dynion sy’n cael eu hamau o osod bom Marathon Boston, yn mynd i’r llys i ofyn i’r barnwr godi rhai gwaharddiadau tra bod Dzhokhar Tsarnaev yn aros am ei achos llys.
Mae ei gyfreithwyr wedi dadlau mewn cais i’r llys y mis diwetha’ fod “mesurau gweinyddol arbennig” yn amharu ar eu gallu i amddiffyn eu cleient.
Mae mesurau o’r fath yn cael eu defnyddio’n aml mewn achosion yn ymwneud â therfysgaeth – sef gwahardd mynediad at e-bost, y cyfryngau, teleffôn ac ymwelwyr.
Mae Dzhokhar Tsarnaev wedi’i gyhuddo o osod dwy fom ger llinell derfyn y ras ar Ebrill 15, lle cafodd tri o bobol eu lladd a mwy na 260 o bobol eu hanafu.
Mae’r erlyniad yn ei gyhuddo ef a’i frawd, Tamerlan, o adeiladu ac o blannu’r bomiau. Bu farw Tamerlan Tsarnaev bedwar diwrnod wedi’r bomio, o ganlyniad i anafiadau yn dilyn brwydr gyda’r heddlu.