Mae llywodraeth y Philippines wedi datgan yn swyddogol fod 1,774 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i’r Teiffwn Haiyan – ond mae disgwyl i’r rhif godi’n sylweddol eto.
Mae’r awdurdodau hefyd wedi dweud fod nifer y rhai gafodd eu hanafu gan y storm waetha’ i daro’r ddaear bedwar niwrnod yn ôl, yn 2,487.
Ond, tra bo disgwyl i’r ddau ffigwr godi, mae amcangyfrifon yn dweud y gallai cyfanswm y meirwon yn fwy na 10,000 ar draws y wlad. Mae tua 660,000 o bobol wedi cael eu gorfodi o’i tai.
Mae cyfryngau China hefyd wedi adrodd fod y teiffwn wedi lladd wyth o bobol yn ne y wlad honno hefyd.