Mae diffyg darpariaeth un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, yn rhwystro ymdrechion i warchod a hybu’r iaith Gymraeg, yn ôl Plaid Cymru.
Mae’r blaid wedi amlygu nifer cyfyngedig y llefydd cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynllun Dechrau’n Deg y blynyddoedd cynnar, ac wedi dweud fod yn rhaid mynd i’r afael â hyn er mwyn cyflwyno polisi iaith cryf.
Mae cynllun Dechrau’n Deg wedi’i anelu at deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed ac sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Ond yn ôl Plaid Cymru mae ystadegau nifer o awdurdodau lleol yn dangos fod nifer y llefydd Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol is na nifer y plant sy’n mynd ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r blaid wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro’r galw a’r ddarpariaeth yn fanylach o lawer, er mwyn asio Dechrau’n Deg a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
O ddifri’
Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Simon Thomas: “Os ydym o ddifrif am wneud Cymru yn wlad wirioneddol ddwyieithog, gyda hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg, yna mae sicrhau darpariaeth ddigonol o addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn gam sylfaenol iawn y mae’n rhaid i ni gymryd.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru yn elwa o bolisi cryf sydd yn sicrhau y gall y sawl sydd eisiau addysg Gymraeg ei dderbyn o’r cychwyn. Dyw hyn ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac y mae’n gywilydd.
“Dylai Llywodraeth Cymru weithio i ddwyn Dechrau’n Deg a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn agosach at ei gilydd o lawer, a monitro’r galw a’r ddarpariaeth.
“Dengys y ffigyrau, ym mwy na hanner siroedd Cymru, fod nifer y llefydd Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg yn fyr iawn o nifer y plant Blwyddyn 2 sy’n derbyn addysg Gymraeg.
“Yn amlwg, nid oes digon o allu i gwrdd â’r galw, a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymdrin â hyn fel mater o frys.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.