Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn 33 oed gael ei ganfod mewn nant yn Rhoscefnhir, Sir Fôn.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r corff ddydd Sul, a’r gred yw fod y dyn yn byw yn ardal Pentraeth, rhwng Porthaethwy a Benllech.

Fe fydd archwiliad post morten yn cael ei gynnal ar y corff, ac mae teulu’r ymadawedig wedi cael gwybod am y farwolaeth.