Mae perchennog caffi’r Gegin Fach yng Nghaernarfon wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “poeni am ail don o’rcoronafeirws”.

Er hynny, mae Karen Jones yn dweud bod “busnes wedi bod yn mynd yn dda ers i ni gael ailagor, er mod i wedi bod yn eithaf nerfus am wneud.”

“Hanner ein capasiti ydyn ni’n cael ei adael i mewn oherwydd y rheolau dau fetr, ond rydym yn gwneud y mwya’ ohono,” meddai Karen Jones.

Fodd bynnag, nid yw  yn credu bod cynllun ‘Eat Out To Help Out’ Llywodraeth Prydain wedi denu mwy o bobol i’r Gegin Fach.

“Dw i ddim yn meddwl bod o wedi denu mwy o bobol na’r arfer, ond mae pobol wedi bod yn hapus ein bod ni’n ei wneud o.

“A dw i dal yn ofidus am beth sydd i ddod, yn poeni fod yno ail don o’r cronafeirws yn dod a lockdown arall.”

Caffi ar droed y Wyddfa yn “gwrthod gadael neb i mewn”

Mae un o berchnogion caffi ar droed y Wyddfa, Penceunant Isaf, sy’n gweini byrbrydau, diod a chwrw wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “gwrthod gadael neb i mewn.

“Dim ond gweini pobol tu allan ydw i, tydi pobol ddim yn sylweddoli pa mor beryglus ydi hi,” meddai Steffan Roberts.

“Dw i’n gwrthod gadael neb i mewn, mae gennyf aelodau staff a theulu i feddwl amdanynt.

“Ond dyw rhai pobol ddim ond yn poeni am arian.”

Mae Steffan Roberts hefyd yn dweud ei fod wedi cael digon o bobol yn “amharchu’r Wyddfa a thaflu sbwriel ymhob man”.

“Does yna neb yn poeni, mae pobol yn dod yma rŵan oherwydd eu bod nhw methu mynd ar wyliau i Sbaen ac yn amharchu’r lle, mae o’n fy ngwylltio i.”