Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi canu clodydd y diweddar Syr Wyn Roberts.

Mewn darn uniaith Gymraeg i flog ceidwadol Gwydir, a hithau yn ’wythnos y steddfod genedlaethol’, mae Paul Davies yn pwysleisio ymrwymiad ei blaid i’r Gymraeg.

Ac yn ei ddarn mae’n cyfeirio sawl gwaith at y diweddar Aelod Seneddol Ceidwadol, Syr Wyn Roberts – gŵr a fu’n weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 15 mlynedd.

Yn ystod ei gyfnod yn weinidog roedd ganddo gyfrifoldeb dros y Gymraeg, a chyn dod yn wleidydd bu’n arloeswr ym maes teledu yn yr iaith Gymraeg.

“A lwyddodd unrhyw wleidydd Cymreig erioed i gyflawni mwy dros hunaniaeth a diwylliant Cymru na Syr Wyn?” meddai Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr.

Yn ddiweddarach yn y darn blog mae’n addo y byddai Llywodraeth Ceidwadwyr yn gweithredu tros y Gymraeg fel yr oedd llywodraeth San Steffan yn ei wneud “yn nyddiau Wyn Roberts”.

Syr Wyn Roberts a’r Gymraeg

Cafodd Ieuan Wyn Pritchard Roberts ei eni yn Sir Fôn yn 1930, a dechreuodd weithio i’r BBC yng Nghymru yn 1954.

Yn 1958 roedd yn un o sefydlwyr Television Wales and the West (TWW) ac wedi hynny daeth yn reolwr y sianel yng Nghymru.

Enillodd sedd Conwy i’r Ceidwadwyr yn 1970 ac mi gadwodd y sedd tan iddo ymddeol o Dŷ’r Cyffredin yn 1997 – daeth yn arglwydd wedi hynny.

Cafodd ei benodi yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig yn 1979, a chafodd S4C ei sefydlu pan oedd yntau yn weinidog – er bu sawl tro pedol ar ran y Llywodraeth.

Yn ei hunangofiant, mae Wyn Roberts yn honni iddo ddadlau gyda’r Prif Weinidog dros statws y Gymraeg fel pwnc ysgol o fewn Deddf Addysg 1988.

Roedd ynghlwm gyda’r broses o basio Deddf Iaith 1993 – a roddodd statws newydd i’r Gymraeg ac arweiniodd at sefydlu Bwrdd yr Iaith.