Mae Neil Hamilton, yr Aelod UKIP o’r Senedd, wedi ei gyhuddo o “godi bwganod” gyda’i fideo diweddar am gofeb Picton yng Nghaerfyrddin.
Mae’r obelisg mawr yng Nghaerfyrddin wedi tanio trafodaeth danllyd, gyda rhai’n galw am waredu’r gofeb am ei fod yn coffáu Syr Thomas Picton.
I rai roedd y ffigwr hwn yn arwr rhyfel a ddylid ei goffau, ond mae eraill yn credu bod y gofeb yn amhriodol o ystyried ei hanes tywyll a’r ffordd y bu iddo drin caethweision.
Yn ei fideo mae Neil Hamilton yn ceryddu’r “Marcswyr diwylliannol” sydd am dynnu’r gofeb i lawr, ac mae’n galw am refferendwm lleol ar y mater. Mae Alun Lenny yn wfftio sylwadau’r AS.
“Mae Neil Hamilton jest yn codi bwganod yn ddiangen,” meddai’r Cynghorydd Sir lleol wrth golwg360.
“Ynghanol y pandemig yma, o hyd y peth diwetha’ r’yn ni eisiau yw refferendwm ar ryw fater mor gymharol bitw a hyn. Mae Hamilton jest yn creu helynt.”
Cadw’r gofeb
Mae’r Cynghorydd, sy’n gyn-Faer ar Gaerfyrddin, yn gwrthwynebu’r syniad o dynnu’r gofeb i lawr, ac mae’n teimlo mai gosod plac wybodaeth wrth ei gwaelod byddai’r ateb “rhesymol”.
Dylai’r plac hynny “ddweud hanes Picton yn llawn – y da a’r drwg”, meddai, cyn egluro’i wrthwynebiad tuag at waredu’r gofeb restredig gradd II.
“Mae’n gymaint o gofnod o gyfnod ag yw e’ i’r dyn ei hun, fydden i’n dadlau,” meddai. “Hefyd, wrth gwrs, mae’r peth yn 80 troedfedd o uchder. Mae wedi ei restru.
“Byddai’n costi ffortiwn – cannoedd o filoedd – i’w dynnu i lawr. A dw i’n siŵr byddai gwrthwynebiad llym yn y dre’ yma i hynny i ddigwydd.”
Mae Dafydd Iwan, y cerddor a’r ymgyrchydd, wedi beirniadu safiad y Cynghorydd.
Dysgu am yr hanes
Mae’r Cyngor Sir eisoes wedi sefydlu panel i gymryd tystiolaeth, ac i lunio polisïau i fynd i’r afael â hiliaeth, ac mae Alun Lenny yn credu bod addysgu am hiliaeth yn fater pwysicach na’r gofeb.
“Mae’n drueni bod yr holl sylw yn cael ei rhoi [i’r gofeb],” meddai. “Mae yna lawer mwy o bethau cyfredol ddylen ni fod yn ymwneud â nhw, fel dysgu hanes imperialaeth Prydain a chaethwasiaeth.
“Roedd yr ymerodraeth wedi ei adeiladu ar gefn 15 miliwn o gaethweision a gafodd eu symud o Affrica ar draws Môr yr Iwerydd i America ac Ynysoedd fel Trinidad.
“Dyw hynna ddim yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, ac fe ddylai gael ei wneud.”