Mae Dafydd Iwan yn dweud nad yw’n cytuno â sylwadau Alun Lenny na fyddai’n iawn nac yn bosib i dynnu’r obelisg er cof am Thomas Picton i lawr yng Nghaerfyrddin.

Mewn cyfweliad â golwg360, mae’r canwr ac ymgyrchydd gwleidyddol yn dweud y dylid cofio ond nid mawrygu pobol fel y masnachwr caethwasiaeth.

Ar ei gyfri Twitter y bore ‘ma (dydd Mawrth, Mehefin 9), dywedodd ei fod yn cytuno â David Melding, cyn-Lywydd y Cynulliad, y byddai cerflun o Iolo Morganwg yn ddewis da yn lle Thomas Picton.

“A dwi’n siŵr y bydd Alun Lenny yn newid ei farn o feddwl eto,” meddai.

“Ni allwn newid hanes, ond gallwn ddathlu yr hyn sy’n werth ei ddathlu, a dysgu ohono.”

Addysgu

Daw sylwadau Dafydd Iwan yn dilyn cyfweliad Alun Lenny ar raglen Newyddion S4C neithiwr (nos Lun, Mehefin 8), lle dywedodd y byddai’n “anodd rhoi cofeb 80 troedfedd o uchder allan o’r golwg”.

Dywedodd ei fod yn “derbyn fod caethwasiaeth yn beth hollol ffiaidd” ac na fyddai’n “amddiffyn ymddygiad treisgar a gormesol yr Ymerodraeth Brydeinig yr oedd Picton yn perthyn iddi”.

“Does dim amheuaeth fod Picton yn gallu bod yn ddyn caled a chreulon fel sawl person blaenllaw arall oedd yn arwyr yn eu dydd ddwy ganrif yn ôl,” meddai.

“Ond nid dinistrio delweddau yw’r ateb o angenrheidrwydd, ond eu defnyddio nhw i addysgu plant ac oedolion heddiw, achos fel ddywedodd William Faulkner ‘The past is not dead, it is not even past.’

Pan ofynnwyd sut y byddai’n cynghori’r Cyngor ar beth i’w wneud â’r mater yma, fe ddywedodd mai “Cadw fydd yn penderfynu, mae’n radd 2 wedi ei rhestru”.

“Cadw’r gofeb, am y rheswm rwy’n dweud y gellwch chi ddim a dileu y gorffennol,” meddai wedyn.

“Os ydych chi’n gwneud hynny rydych chi’n dinistrio’r dystiolaeth weladwy am anghyfiawnder a chreulondeb y gorffennol yn ogystal a rhywbeth da all fod wedi digwydd.

Dysgu plant felly am wrthrych y gofeb, pob cofeb, da a drwg.

Cofnodi ond nid mawrygu

Mewn cyfweliad â golwg360 y prynhawn ‘ma, dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn deall o ble yr oedd sylwadau Alun Lenny yn dod ond mai holl bwynt cofgolofnau o’r fath yw eu bod nhw’n mawrygu ac yn clodfori pobol fel Picton.

“Iawn, mae’n rhaid ei gofio fo, mae’n rhaid ei gofnodi fo, ac falle fod ‘na le mewn amgueddfa iddo fo,” meddai Dafydd Iwan.

“Ond o ran cael cofgolofn gyhoeddus, amlwg yng Nghaerfyrddin mae ’na lawer iawn o ddewisiadau gwell na Picton.

“Fyswn i’n cytuno y base Iolo Morgannwg yn well ar gyfer Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

“Glywes i beth oedd Alun Lenny yn ei ddweud, ond alla i ddim cytuno â fo, achos beth oedd o’n ei ddweud oedd fod yn rhaid cofnodi hanes, ond mae cofgolofn fel yna yn mawrygu ac yn clodfori y sawl sy’n cael ei gofio.”