Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn 38 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a lori yng Ngheredigion.

Fe ddigwyddodd ar groesffordd Pentregât rhwng Tanygroes a Synod Inn am oddeutu 4.40 brynhawn ddoe (dydd Llun, Mehefin 8).

Cafodd yr heddlu, ambiwlans ac ambiwlans awyr eu galw i’r digwyddiad.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle ac mae’r heddlu’n cefnogi ei deulu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.