Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod sefyllfa’r coronafeirws yng ngharchardai Cymru’n “alwad i ddeffro”.

Mae ffigurau’r Adran Gyfiawnder yn dangos bod gan Gymru 165 o achosion mewn carchardai.

O’r 165 o achosion yng Nghymru, staff yw 75 ohonyn nhw a’r gweddill yn garcharorion.

Tryloywder

Mewn ymateb, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am dryloywder ynghylch pa fesurau ychwanegol sy’n cael eu cymryd i reoli’r ymlediad a thrin y rhai sydd wedi’u heintio.

Maen nhw hefyd yn galw am adolygiad o’r system garchardai, gan edrych ar faint carchardai Cymru a’r ffordd y mae’r setliad datganoledig presennol yn rhannu’r cyfrifoldeb am gyfiawnder a lles carcharorion.

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, mae’r sefyllfa’n gywilyddus.

“Nawr mae arnom angen tryloywder ar frys o ran pa gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa druenus hon a diogelu lles staff a charcharorion,” meddai.

“Mae hyn yn alwad i ddeffro.

“Mae’n amlwg nad cloi pobol mewn carchardai mawr iawn yw’r ateb ac mae angen i ni ganolbwyntio mwy ar adsefydlu, i gael pobl i ailintegreiddio i’r gymdeithas a thorri’r cylch o aildroseddu.

“Mae angen cyfiawnder arnom hefyd i ddatganoli’n llawn yng Nghymru.

“Mae’n chwerthinllyd mai Llywodraeth Prydain sy’n penderfynu pwy sy’n cael eu carcharu, ond mae’n gadael Llywodraeth Cymru i wneud yr holl waith caled pan ddaw’n fater o iechyd a lles carcharorion.

“Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gallu rhoi atebion yn fuan i’r hyn sy’n cael ei wneud i roi terfyn ar ledaeniad Covid-19 yn ein carchardai.”