Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi canfod gwerth £10,000 o gyffur sbeis mewn Volkswagen Polo oedd yn teithio o Gaerdydd am y Gorllewin.
Arestiwyd Jack Brennan ddydd Sadwrn, Mehefin 28 ar ôl i’r heddlu stopio Volkswagen Polo ger yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd yr heddlu ar ddeall bod perchennog y Volkswagen Polo wedi bod yn teithio yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd i gasglu cyffuriau i’w gwerthu yn Sir Gaerfyrddin.
Honnodd Jack Brennan, sy’n 22 oed ac o Lanelli – sydd bellach wedi ei garcharu – fod yr hanner cilo o sbeis yr oedd o’n ei gludo ar ei gyfer ef a neb arall.
“Derbyniwyd gwybodaeth y byddai’r car yn dychwelyd i Lanelli gyda sylweddau y bwriedir eu gwerthu i bobol yn yr ardal”, meddai’r Ditectif Arolygydd Wayne Bevan.
“Gofynnwyd am gymorth gan Uned Plismona Ffyrdd Sir Gaerfyrddin i stopio’r car wrth iddo adael yr M4 ger yr Hendy, a chafodd ei archwilio o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
“Dywedodd Brennan wrth un o’r swyddogion fod hanner cilo o sbeis ar sedd gefn y car, a bod y hwnnw i gyd at ei ddefnydd ei hun.
“Roedd y pecyn yn y car yn cynnwys swm oedd yn anghyson â defnydd personol, felly cafodd ei arestio’n ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant, gyda’r bwriad o gyflenwi. ”
Roedd gwerth oddeutu £10,000 o sbeis yn y car.
Cyfaddefodd Jack Brennan i’r drosedd yn Llys y Goron Abertawe a chafodd ei ddedfrydu i 36 wythnos yn y carchar.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Wayne Bevan: “Mae sbeis yn sylwedd hynod gaethiwus a pheryglus, ac mae’r gwaith yma gan yr heddlu wedi atal cryn dipyn o’r cyffur rhag cyrraedd Llanelli.
“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng adrannau i adnabod y cerbyd, ac i atal y cyffur hwn rhag cyrraedd y gadwyn gyflenwi.”