Dylai’r cerflun o Syr Thomas Picton aros yn Neuadd Dinas Caerdydd, yn ôl un o’i ddisgynyddion.

Dros y misoedd diwethaf, yn sgil ton o brotestiadau gwrth-hiliaeth, mae cerfluniau o ffigyrau dadleuol wedi bod yn dipyn o destun trafod yng Nghymru.

Ac un o’r rheiny sydd wedi esgor ar gryn drafodaeth yw Syr Thomas Picton, is-gadfridog o’r ddeunawfed neu bedwaredd ganrif ar bymtheg, sydd wedi ennyn cryn feirniadaeth am y ffordd y bu iddo drin caethweision.

Mae cerflun ohono yn sefyll yn Neuadd Dinas Caerdydd yn rhan o gasgliad ‘Arwyr Cymru’, ond yn ddiweddarach bydd y Cyngor yn trafod y posibiliad o’i dynnu oddi yno.

Yn wreiddiol roedd Aled Thomas, disgynnydd iddo, wedi galw am symud y cerflun i amgueddfa, ond bellach mae’n teimlo y dylai aros lle mae e gyda phlac i ddisgrifio’i hanes cymhleth.

“Dw i wedi awgrymu i’r Cyngor bod plac yn cael ei osod arno fe mewn ffordd sy’n cyflwyno’r hanes mewn ffordd gyda mwy o gydbwysedd fel bod pobol yn deall beth yw ei werth e fel hanes hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Felly does dim angen ei symud i amgueddfa er mwyn llwyddo i gael y dehongliad cywir sydd angen arno fe.”

Arwr?

Mae’n dweud mai “ymateb sydyn” oedd ei alwad gwreiddiol i’w roi mewn amgueddfa, ond ochr yn ochr â hynny mae’n pwysleisio nad yw’n cytuno â bydolwg ei gyndaid.

“Dyw finnau’n dweud bod rhaid cadw’r cerflun ddim yn golygu fy mod i’n cefnogi’r ideoleg mae’n ei gynrychioli,” meddai.

Byddai rhai yn dadlau nad yw plac yn ddigon, a bod ei gynnwys mewn casgliad o arwyr yn amhriodol, ond mae’r disgynnydd yn gwrthod hynny.

“Roedd wedi gwneud Brwydr Waterloo, roedd yn arwr rhyfel, a rhaid parchu yr oedd yn cael ei ystyried yn arwr yn y cyfnod yr oedd wedi cael ei rhoi lan,” meddai.

“Roedd hefyd wedi ei rhoi lan yn ddemocrataidd. Roedd Lloyd George [y cyn-Brif Weinidog o Gymru] ei hunan wedi ei roi e lan.”

“Mae’n rhaid iddo fe aros oherwydd mae’n dal yn arwr,” meddai wedyn.

Cefndir

Mae’n debyg mai tad-cu Syr Thomas Picton, Owen Picton, yw hen (x8) dad-cu Aled Thomas, a fis diwetha’ mi anfonodd lythyr i’r Cyngor yn cyfleu “embaras” am weithredoedd y cyndaid.

Wnaeth yr is-cadfridog frwydro yn Rhyfeloedd Napoleon ac ym Mrwydr Waterloo, ond mae hefyd yn enwog am gael ei farnu’n euog o arteithio merch hil-gymysg.

Mae’r cynnig a fydd yn cael ei drafod gan y Cyngor yn ddiweddarach yn galw am “dynnu cerflun Syr Thomas Picton o’r Neuadd Marmor, ac ystyried ei osod rhywle arall gydag esboniad eglur o’i weithredoedd”.

Mae’r cynnig yn gwrthod y syniad bod y cerflun wedi ei osod yno yn ddemocrataidd.