Mae pobol sy’n bwriadu ymweld â pharciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog wedi cael rhybudd i gadw at gyfyngiadau’r coronafeirws, wrth i awdurdodau rybuddio eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi â nifer y bobol sy’n mynd yno.

Yn dilyn rhybudd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i bod hi’n brysur dros ben yno, mae pobol yn cael eu hannog i sicrhau bod ganddyn nhw “gynllun wrth gefn os yw eu cyrchfan yn rhy brysur”.

Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud y byddan nhw’n cynyddu eu presenoldeb ar y ffyrdd ac mewn cymunedau yn sgil pryderon am faint o bobol fydd yn ymweld â rhai llefydd.

Eu bwriad, meddai’r heddlu, yw sicrhau bod pobol yn cadw at y rheolau.

A bellach, mae Awdurdod Parc Cendlaethol Bannau Brycheiniog yn dweud bod ardal Gwlad y Rhaeadrau’n “ei chael hi’n anodd ymdopi â nifer uchel o ymwelwyr”.

Maen nhw’n dweud nad yw meysydd parcio na llwybrau yn gallu ymdopi â faint o bobol sydd yno, ac yn cynghori pobol i “gynllunio ymlaen llaw”.

“Mae’n hanfodol fod ymwelwyr yn parcio yn y meysydd parcio dynodedig ac unrhyw gaeau dros ben sydd ar gael,” meddai datganiad ar eu gwefan.

“Mae ceir sydd wedi’u parcio ar y dibyn ac ar balmentydd wedi bod yn achosi rhwystr i gerbydau brys a thraffig amaethyddol sydd angen defnyddio’r ffyrdd a’r lonydd cul.

“Mae’r Awdurdod yn argymell fod pobol yn gwirio ein ap parcio cyn penderfynu ymweld, ac yn dymuno atgoffa pobol fod y meysydd parcio yn aml yn mynd o fod â llefydd ar gael i fod yn llawn o fewn awr.”

Maen nhw’n dweud bod maes parcio Cwm Porth wedi llenwi erbyn 9.50 fore dydd Sul diwethaf, a bod yr heddlu’n cadw llygad ar y sefyllfa gan roi mwy na 30 o docynnau parcio, ac maen nhw’n dweud bod ceir sy’n parcio’n anghyfreithlon mewn perygl o gael eu symud oddi yno.

“Rydyn ni eisiau i ymwelwyr gael atgofion da o ymweld â Gwlad y Rhaeadrau, ac nid i gofio nad oedden nhw’n gallu parcio na bod y llwybrau cerdded yn orlawn,” meddai Julian Atkins, prif weithredwr y parc cenedlaethol.

“Mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol pan fo cynifer o bobol o gwmpas a llwybrau cerdded yn gul.

“Mae’r parc cenedlaethol yn eang, gan fynd dros 520 milltir sgwâr, felly nawr fyddai’r amser gorau i ymweld ag ardaloedd llai poblogaidd, a dod o hyd i hoff le newydd.

“Felly rydyn ni’n gofyn i bobol gynllunio ymlaen llaw a bod â chynllun wrth gefn mewn golwg os ydych chi’n cyrraedd ac yn ei chael hi’n orlawn.”

Sgwd Gwladys

Daw’r rhybuddion drannoeth digwyddiad difrifol yn ardal Sgwd Gwladys ger Pontneddfechan.

Cafodd bachgen 13 oed ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cwympo 20 metr i mewn i raeadr a tharo gwaelod yr afon.

Fe ddigwyddodd toc ar ôl 3.30yp.