Fe fydd angladd Andrew ‘Tommo’ Thomas, y cyflwynydd radio poblogaidd a llais Parc y Scarlets, yn cael ei gynnal yn Aberteifi heddiw (dydd Sadwrn, Awst 8).

Fe fu farw’n sydyn ar Orffennaf 28 yn 53 oed, ac fe ddaeth teyrngedau lu iddo.

Mae’n gadael gwraig, Donna, a mab, Cian.

Mae’r band Ail Symudiad eisoes wedi dweud y byddan nhw’n canu yn y gwasanaeth, fydd yn cael ei gynnal ar gae chwarae King George V yn y dref.

Mae galarwyr yn cael eu hannog i wisgo lliwiau tîm y Scarlets, tîm pêl-droed Abertawe neu dîm rygbi Maesglas.

Roedd ‘Tommo’ yn enw adnabyddus yn yr ardal, a hynny fel troellwr disgiau ac yna fel cyflwynydd Nation Radio yn ardaloedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, cyn mynd yn ei flaen i gyflwyno’n genedlaethol ar Radio Cymru.

Yn fwyaf diweddar, fe ddychwelodd at Nation Radio, ac roedd yn llais cyfarwydd ar Barc y Scarlets ac fel rhan o adloniant diwrnod gemau’r Elyrch yn Stadiwm Liberty.