Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud bod cwesitynu ei hymrwymiad i annibynaeth yn “wallgof”, wrth iddi gadarnhau ei bwriad i sefyll yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.

Mae’n dweud y bydd hi’n gwasanaethu am dymor arall os caiff ei hethol i Senedd yr Alban unwaith eto.

Yn ôl pôl Panelbase fis diwethaf, mae 54% o drigolion yr Alban bellach o blaid annibyniaeth, gyda 46% yn erbyn.

“Mae gan bobol yr hawl i ddod i unrhyw gasgliad fynnon nhw a’ch barnu chi os ydyn nhw eisiau, dyna ddemocratiaeth,” meddai.

“Dw i wedi treulio fy mywyd cyfan fel oedolyn yn ymgyrchu dros annibyniaeth i’r Alban, dw i’n credu mewn annibyniaeth i’r Alban ym mêr fy esgyrn, a dw i hefyd yn credu y bydd yr Alban yn annibynnol yn hwyr neu’n hwyrach a fi hefyd yw arweinydd yr SNP sy’n llywyddu dros gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban.

“Gadewch i ni ddweud fy mod i’n eithaf cyfforddus yn fy ymrwymiad fy hun i annibyniaeth a gall pobol eraill ei gwestiynu os ydyn nhw’n dymuno, ond dw i’n credu’i fod e’n wallgof.”