Mae cyfyngiadau’r coronafeirws wedi dod i rym unwaith eto yn Preston yn dilyn cynnydd mewn achosion.
Ers canol nos (Awst 8), dydy pobol o aelwydydd gwahanol ddim yn cael cymysgu dan do nac mewn gerddi.
Mae ardaloedd eraill ger Manceinion, Swydd Gaerhirfryn a Gorllewin Swydd Efrog eisoes dan gyfyngiadau o’r newydd.
Daeth rhybudd ddydd Iau (Awst 6) y gallai Llywodraeth Prydain ymyrryd er mwyn datrys y sefyllfa yn Preston, lle cafodd 61 o achosion newydd eu cofnodi dros yr wythnos hyd at Awst 4.
Mae disgwyl i’r cyfyngiadau gael eu hadolygu’r wythnos nesaf, gydag unrhyw newidiadau’n cael eu cyhoeddi ddydd Gwener (Awst 14).
Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi diolch i bobol am eu hamynedd, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu â chyflwyno system olrhain mewn da bryd i helpu cynghorau lleol.