Mae nyrsys a gweithwyr eraill y Gwasanaeth Iechyd yn gorymdeithio mewn trefi a dinasoedd yn y de heddiw (dydd Sadwrn, Awst 8) i hawlio codiad cyflog.

Mae digwyddiadau ar y gweill yng Nghaerdydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, fel rhan o ymgyrch ledled gwledydd Prydain, ac mae disgwyl i fwy na 1,000 o bobol gymryd rhan.

Doedd staff y Gwasanaeth Iechyd ddim wedi cael codiad cyflog yr un pryd â chyhoeddiad ychydig wythnosau’n ôl y byddai oddeutu 900,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yn ei gael, a hynny am eu bod nhw ym mlwyddyn olaf eu cytundeb cyflog tair blynedd.

Mae disgwyl ar hyn o bryd iddyn nhw gael codiad cyflog fis Ebrill nesaf, ond mae’r ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddangos eu gwerthfawrogiad iddyn nhw am eu gwaith drwy gyflwyno’r codiad yn gynt na’r disgwyl.

Mae mwy na 500 o weithwyr iechyd wedi marw yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Bydd y protestiadau’n cadw at bellter cymdeithasol a chyfyngiadau eraill y coronafeirws.

Gorymdaith y Gwasanaeth Iechyd
Gorymdaith y Gwasanaeth Iechyd yn Sgwâr y Castell Abertawe

Lleoliadau’r digwyddiadau yw:

  • Y Senedd yng Nghaerdydd
  • Sgwâr y Castell i Neuadd y Ddinas yn Abertawe
  • Y ffynnon ym Merthyr Tudful
  • Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr