Mae Yes Cymru wedi datgan eu bod nhw’n “fudiad i bawb”.

Fe fu’r mudiad dan bwysau’n ddiweddar i wneud datganiad o’r fath wrth i ymgyrchoedd fel Black Lives Matter fagu coesau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r mudiad wedi gweld nifer yr aelodau’n treblu ers dechrau ymlediad y coronafeirws, a hynny i raddau helaeth wrth i Lywodraeth Cymru gael eu canmol am eu hymdriniaeth o’r sefyllfa yng Nghymru, a thynnu’n groes ar y cyfyngiadau i Lywodraeth Prydain.

“Ers dyfodiad COVID-19 mae aelodaeth YesCymru wedi treblu,” meddai’r mudiad mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Gyda’r ymchwydd mewn diddordeb, gofynnwyd cwestiynau anodd ynghylch pwy sydd i’w groesawu yn YesCymru, pa fath o fudiad y mae YesCymru yn ei gynrychioli, a pha fath o gymdeithas y mae Yes Cymru yn ymladd drosti.

“Mae YesCymru yn fudiad i bawb. Bydd Cymru annibynnol yn Gymru i bawb.

“Mae angen i ni ofyn y cwestiynau caled a chael y sgyrsiau anodd, hyd yn oed pan nad oes gennym yr atebion ar hyn o bryd, fel y gall YesCymru ddatblygu fel symudiad i rywbeth gwell.

“Nid yw bellach yn ddigon da i honni “nad ydym yn hiliol” a nac rydym ym gwahaniaethu.

“Yn unigol, ac ar y cyd, mae’n rhaid i ni anelu at fod yn wrth-hiliol ac yn wrth-wahaniaethol.

“Rhaid peidio â bod unrhyw rwystrau i gyfranogi.

“Yn amlwg, mae gennym le i wella, ac rydym eisoes yn gwneud pethau i wella.

“Felly, hoffai Pwyllgor Canolog YesCymru gyhoeddi:

  • Byddwn yn hysbysebu am Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant rhan-amser â thâl, rhan o’i rôl fydd adolygu ein strwythurau i ddod o hyd i unrhyw feysydd gwahaniaethu
  • Byddwn yn comisiynu polisi diogelu
  • Byddwn yn ymgynghori ar welliannau i’n gweithdrefn gwynion; a
  • Byddwn yn comisiynu adolygiad o gyfansoddiad YesCymru i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.

“Gwneir cyhoeddiadau pellach o fewn y pythefnos nesaf.

“Mor anghyffyrddus ag y gall fod, yn unigol ac ar y cyd, dyma’r sgyrsiau y mae’n rhaid i ni eu cael. Byddwn ni i gyd, fel YesCymru ac fel gwlad, yn well am eu cael.”