Llafur sydd yn elwa fwyaf o'r system bresennol ar hyn o bryd (llun: BBC Cymru)
Mae diwygio etholiadol nôl ar yr agenda yn dilyn y bleidlais ddydd Iau, yn ôl Iolo Cheung

Mae’n deimlad rhyfedd i fod yn ystyried system bleidleisio’r Cynulliad lai nag wythnos ers yr etholiad, gyda’r un nesaf ddim yn debygol o ddigwydd am bum mlynedd arall.

Ond hyd yn oed cyn i’r cyhoedd daro’u pleidlais ddydd Iau diwethaf, roedd rhai eisoes wedi dechrau codi cwestiynau ynghylch tegwch y drefn.

Mae hynny wedi parhau ers i’r canlyniadau ddechrau llifo, gyda sylwebwyr yn ogystal â rhai o aelodau’r gwrthbleidiau’n holi sut y gallai canran cefnogaeth Llafur ddisgyn i ychydig dros draean, ac eto eu bod nhw wedi llwyddo i ennill bron i hanner y seddi?

System lled-gyfrannol sydd gyda ni yma yng Nghymru mewn gwirionedd – cymysgedd o’r ras ‘cyntaf i’r felin’ sydd yn dewis ASau San Steffan, a’r rhestrau rhanbarthol sydd yn ceisio ychwanegu mwy o gydbwysedd.

Ond mae’r ffaith bod dwywaith y nifer o seddi etholaethol (40) ag sydd o rai rhanbarthol (20) yn golygu mai anghyson yw’r dosbarthiad.

A fyddai hi’n fwy teg ethol yr un nifer oddi ar y ddau? Sut fyddai’r Cynulliad wedi edrych petai gennym ni hefyd 40 AC rhanbarthol?

Aelodau ychwanegol

System d’Hondt sy’n cael ei defnyddio i ddosbarthu’r seddi rhanbarthol ar hyn o bryd – wnâi ddim eich diflasu gyda gormod o fanylder am hwnnw, ond yn syml mae’n tueddu i wobrwyo’r pleidiau wnaeth yn weddol dda yn yr etholaethau ond ddim digon i ennill seddi.

Yn y Cynulliad er enghraifft dim ond 2 o’r 20 sedd ranbarthol aeth i Lafur, a hynny am eu bod nhw wedi cael mwy na digon (27/40) o’r seddi etholaethol.

Ar y llaw arall doedd UKIP heb ennill unrhyw seddi etholaethol er iddi gael dros 12% o’r bleidlais, a dyna pam y cawson nhw fwy o seddi rhanbarthol nag unrhyw un arall.

Pwy fyddai wedi ennill seddi felly petai’r Cynulliad yn ethol wyth AC (yn hytrach na phedwar) ym mhob rhanbarth? A fyddai canran y seddi yr oedd y pleidiau’n eu hennill yn agosach at ganran eu pleidlais?

Pwy fyddai ar eu hennill?


Dosbarthiad y seddi ymysg y pleidiau yn dilyn yr etholiad ar 5 Mai eleni
Isod mae manylion y pleidiau a enillodd y pedair sedd ym mhob rhanbarth yn yr etholiad go iawn – ac yna’r pleidiau fyddai wedi ennill y pumed, chweched, seithfed ac wythfed sedd ar y rhestr petaent yn bodoli.

Gogledd Cymru: 2 UKIP, 1 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr (ac yna 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr, 1 Llafur)

Canolbarth a Gorllewin Cymru: 2 Llafur, 1 Plaid Cymru, 1 UKIP (ac yna 1 Plaid Cymru, 1 UKIP, 1 Ceidwadwyr, 1 Democratiaid Rhyddfrydol)

Gorllewin De Cymru: 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr, 1 UKIP (ac yna 1 Plaid Cymru, 1 UKIP, 1 Ceidwadwyr, 1 Democratiaid Rhyddfrydol)

Canol De Cymru: 2 Ceidwadwyr, 1 Plaid Cymru, 1 UKIP (ac yna 1 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru, 1 Democratiaid Rhyddfrydol)

Dwyrain De Cymru: 2 UKIP, 1 Ceidwadwyr, 1 Plaid Cymru (ac yna 1 UKIP, 1 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru)

Sut fyddai Cynulliad o 80 Aelod wedi’i ethol dan y system yna wedi edrych felly? Llafur fyddai’r brif blaid o hyd, ond fydden nhw ddim yn agos at fwyafrif bellach. Byddai Plaid Cymru’n cynyddu’r bwlch ar y Ceidwadwyr, tra bod y Gwyrddion dal ddim yn ennill sedd.


Dosbarthiad y seddi ymysg y pleidiau petai 40 Aelod Cynulliad rhanbarthol (yn hytrach na'r 20 presennol) wedi cael eu hethol
Llafur – 30 (27 etholaethol + 3 rhanbarthol)

Plaid Cymru – 20 (6 etholaethol + 14 rhanbarthol)

Ceidwadwyr – 16 (6 etholaethol + 10 rhanbarthol)

UKIP – 10 (dim etholaethol + 10 rhanbarthol)

Democratiaid Rhyddfrydol – 4 (1 etholaethol + 3 rhanbarthol)

Fyddai hynny wedi bod yn ganlyniad mwy cyfrannol na’r un gawson ni ddydd Iau diwethaf gyda 60 Aelod Cynulliad? Er mwyn penderfynu hynny mae’n rhaid i ni edrych ar ganran eu pleidleisiau.

Yn yr etholiad dyma oedd canran y gefnogaeth a gafodd y pleidiau yn yr etholaethau a’r rhanbarthau – a chanran y seddi fydden nhw wedi ennill mewn Cynulliad o 60 ac 80 Aelod:

Llafur – 34.7% & 31.5% – digon i ennill 29 sedd (48.3% o’r rhai oedd ar gael) yn yr etholiad go iawn, ond dim ond 30 sedd (37.5%) o’r cyfanswm yn ein Senedd 80 Aelod dychmygol

Plaid Cymru – 20.5% & 20.8% – digon i ennill 12 sedd (20% o’r rhai oedd ar gael) yn yr etholiad go iawn, ac 20 sedd (25%) yn ein Senedd 80 Aelod dychmygol

Ceidwadwyr – 21.1% & 18.8% – 11 sedd (18.3% o’r rhai oedd ar gael) yn yr etholiad go iawn, ac 16 sedd (20%) yn ein Senedd 80 Aelod dychmygol

UKIP – 12.5% & 13% – 7 sedd (11.7% o’r rhai oedd ar gael) yn yr etholiad go iawn, a 10 sedd (12.5%) yn ein Senedd 80 Aelod dychmygol

Democratiaid Rhyddfrydol – 7.7% & 6.5% – un sedd (1.7% o’r rhai oedd ar gael) yn yr etholiad go iawn, a 4 sedd (5%) yn ein Senedd 80 Aelod dychmygol

Fyddai Cynulliad o 80 sedd wedi bod yn fwy cyfrannol, felly? Byddai Llafur dal i fod wedi ennill mwy o seddi nag yr oedd cyfran eu pleidlais yn ei awgrymu, ond byddai’r un peth hefyd yn wir i Blaid Cymru.

Ar y llaw arall, newid bychan iawn fyddai wedi bod i gyfradd y Ceidwadwyr ac UKIP o’r seddi, ac fe fydden nhw wedi bod yn reit debyg i ganrannau eu pleidlais beth bynnag.

Ar y llaw arall byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwella’u cynrychiolaeth yn sylweddol mewn Senedd o 80 AC, er na fydden nhw cweit wedi cyrraedd y lefel roedd eu pleidlais nhw’n ‘haeddu’.

A’r gweddill? Yn ddiddorol, plaid Diddymu’r Cynulliad Cenedlaethol fyddai wedi ennill y nawfed sedd restr yn y gogledd, ac roedd y Gwyrddion yn bell, bell ohoni hyd yn oed yn eu hardaloedd cryf fel y canolbarth a’r gorllewin.

Mae’n ymddangos felly y byddai cynyddu nifer yr ACau rhanbarthol yn gallu arwain at ganlyniadau mwy cyfrannol mewn etholiadau Cynulliad – ond mae’n system sydd yn dal i dueddu ffafrio’r pleidiau mwyaf.

Newid ar y gorwel?

Ymarfer damcaniaethol oedd hon, wrth gwrs – 60 Aelod sydd yn y Cynulliad, nid 80, a does dim cynlluniau (ar hyn o bryd beth bynnag) i efelychu’r system yna o 80 aelod dw i wedi’i ddefnyddio uchod.

Ond gyda phwerau dros etholiadau’r Cynulliad yn cael eu datganoli i Gaerdydd yn fuan – a newid ffiniau’n debygol o ddigwydd yn etholaethau San Steffan – mae’n bosib iawn y bydd yr etholiad yn 2021 yn cael ei hymladd dan system newydd.

A fyddwn ni’n gweld cynnydd yn y nifer o ACau? Ai addasu’r system ‘Aelodau Ychwanegol’ (AMS) presennol fyddai hawsaf? Neu ddewis model wahanol fel pleidleisio STV, sydd yn cael ei ddefnyddio yn etholiadau Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon?

Un peth sy’n debygol – nid dyma’r olaf fyddwn ni’n ei glywed am ddiwygio etholiadol yng Nghymru dros y misoedd nesaf.