Mae gweinidogion wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i bapur prawf gafodd ei gyhoeddi ar-lein neithiwr – cyn y prawf i ddisgyblion blwyddyn chwech yn Lloegr heddiw.
Mae’n debyg fod y prawf gramadeg a sillafu Saesneg Cyfnod Allweddol 2 wedi’i uwchlwytho “drwy gamgymeriad” i wefan Pearson tua phump o’r gloch nos Lun.
“Cafodd Pearson wybod fod y prawf ar eu gwefan gan farcwyr yn ystod y noson ac fe wnaethon nhw waredu’r deunydd o’r safle erbyn tua 9pm,” meddai Nick Gibb, Gweinidog Ysgolion San Steffan.
Mae’n debyg fod tua 93 o farcwyr proffesiynol wedi gweld y deunydd yn y cyfnod hwnnw, a bod un ohonyn nhw wedi rhyddhau’r manylion i’r cyfryngau.
Serch hynny, fe gafodd y prawf ei gynnal yn ôl yr arfer yn Lloegr heddiw, am fod yr awdurdodau o’r farn nad oedd y wybodaeth wedi cyrraedd y cyhoedd.
Ymddiheuro am y ‘camgymeriad’
Cadarnhaodd Nick Gibb fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i sut cafodd y prawf ei uwchlwytho yn y lle cyntaf, a hefyd ymgais i adnabod y sawl wnaeth ryddhau’r wybodaeth i’r cyfryngau.
Esboniodd fod gan farcwyr proffesiynol rwymedigaeth i beidio â rhannu gwybodaeth gyfrinachol.
“Yn anffodus, yn yr achos hwn, mae’n ymddangos fod un person wedi rhyddhau’r prawf Saesneg gramadeg, atalnodi a sillafu i newyddiadurwr.”
Er hyn, fe benderfynodd y newyddiadurwr dan sylw i beidio â chyhoeddi’r prawf.
Dyma’r ail achos i brawf gael ei gyhoeddi o flaen llaw, wedi i brawf sillafu i ddisgyblion saith oed gael ei gyhoeddi ar-lein fis diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Pearson eu bod yn “ymddiheuro i ysgolion, athrawon, rhieni a disgyblion am y camgymeriad hwn mewn adeg sensitif. Rydym yn cynnal ymchwiliad i sicrhau na all hyn ddigwydd eto.”
Mae na feirniadaeth chwyrn wedi bod i’r profion gyda rhai rhieni’n dweud bod y digwyddiad diweddaraf wedi achosi “anrhefn” yn y system.