Yn ôl adroddiadau, un o’r pethau cyntaf y mae Aelod Cynulliad newydd Ukip, Neil Hamilton wedi’i wneud fel arweinydd y grŵp yn y Cynulliad yw diswyddo rhai o staff y blaid.
Yn ôl ffynhonnell yn swyddfa Ukip yng Nghaerdydd mae unrhyw un a oedd yn gwrthwynebu ei benodi’n arweinydd y grŵp yn y Cynulliad wedi cael eu diswyddo.
Roedd y cyn-Geidwadwr wedi herio arweinydd y blaid Nathan Gill, am y rôl. Fe fydd Nathan Gill yn parhau fel arweinydd y blaid yng Nghymru.
Dywedodd un aelod o staff sydd wedi cael ei ddiswyddo wrth golwg360 nad oedd “yn gwybod beth i’w wneud” yn dilyn y newyddion.
Nid oedd unrhyw un yn swyddfa Ukip yng Nghaerdydd na Llundain yn fodlon rhoi ymateb i golwg360 prynhawn ma, ac fe ddywedon nhw fod y sefyllfa staffio “hyd yn hyn yn honiadau sydd heb eu cadarnhau”.
Mae tensiynau wedi bod o fewn y blaid ar ol i Nathan Gill ddweud mewn dadl deledu na fyddai wedi dewis Neil Hamilton i sefyll fel AC yn yr etholiadau.
Cafodd Neil Hamilton ei ethol prynhawn ‘ma fel arweinydd Ukip yn y Cynulliad, ar ôl cael ei ethol i’r Senedd fel Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau diwethaf.
O ran pleidleisiau’r Aelodau Cynulliad UKIP dros arweinydd newydd y grŵp yn y Cynulliad, fe wnaeth Gareth Bennett, Caroline Jones a Michelle Brown bleidleisio dros Neil Hamilton, tra bod Mark Reckless a David Rowlands wedi pleidleisio dros Nathan Gill.
Stori: Mared Ifan