Neil Hamilton
Neil Hamilton sydd wedi’i ethol fel arweinydd Ukip yn y Cynulliad, ar ôl i saith Aelod Cynulliad y blaid ei ddewis e dros Nathan Gill, arweinydd Ukip yng Nghymru.
Cafodd pleidlais ei chynnal heddiw gan y grŵp newydd o Aelodau Cynulliad, a bleidleisiodd dros y cyn-Geidwadwr yn Lloegr fel eu harweinydd.
Mae’n debyg bod pedwar AC wedi pleidleisio o blaid Hamilton, a thri wedi cefnogi Nathan Gill.
Bydd Neil Hamilton, 67, nawr yn derbyn £23,000 yn ychwanegol ar ben ei gyflog o £64,000 fel Aelod Cynulliad.
Cafodd y gwleidydd, a gafodd ei fagu yn Rhydaman, ei ethol fel Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau’r Cynulliad.
Bu’n ffigwr dadleuol iawn fel Aelod Seneddol yn Lloegr, a hynny am y sgandal “arian am gwestiynau”, a chafodd ei ddiarddel o’r Blaid Geidwadol.
Yn dilyn hynny fe wnaeth Hamilton a’i wraig Christine ymddangos ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Have I Got News For You, I’m A Celebrity … Get Me Out Of Here! a Celebrity MasterChef.
Tensiynau yn y blaid
Mae’n debyg bod tensiynau wedi bod rhwng Neil Hamilton a Nathan Gill ers i’r arweinydd yng Nghymru ddweud mewn dadl deledu na fyddai wedi’i ddewis i sefyll fel AC yn yr etholiadau.
Ymatebodd ei wraig, Christine Hamilton, drwy drydar neges yn galw Nathan Gill yn “gadfridog o’r drydedd radd”.
Fodd bynnag, fe fynnodd Neil Hamilton y byddai Aelodau Cynulliad ei blaid yn “cydlynu fel grŵp”.
“Rwyf wedi cael fy ethol fel arweinydd grŵp Ukip gan fy nghyd-Aelodau Cynulliad a byddwn yn gweithredu’n hollol gydlynol fel grŵp,” meddai ar Twitter.
Bydd Nathan Gill yn parhau fel arweinydd Ukip yng Nghymru am y tro.