Ben Needham
Mae mam Ben Needham – y bachgen bach aeth ar goll ar ynys yng Ngwlad Groeg bron i 25 mlynedd yn ôl – yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd apêl o’r newydd gan yr heddlu yn dod ag atebion i’w theulu.

Daeth sylwadau Kerry Needham wrth i dîm o 10 o swyddogion Heddlu De Swydd Efrog apelio am gymorth i ddod o hyd i’r bachgen ger y ffermdy  ar ynys Kos lle cafodd ei weld y tro diwethaf yn 1991.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y bydd gwobr ariannol o £10,000 gan yr elusen Crimestoppers yn cael ei roi i unrhyw un sy’n darparu gwybodaeth all arwain at ddod o hyd i Ben, hyd yn oed os ydyn nhw’n byw y tu allan i’r DU.

Arian ychwanegol

Dywedodd Kerry Needham ei bod yn gobeithio bod cyfraith yng Ngwlad Groeg, sy’n golygu na ellir erlyn rhywun erbyn hyn am gelu gwybodaeth, yn annog pobl i fynd at yr heddlu.

Roedd Ben Needham, o Sheffield, yn 21 mis oed pan ddiflannodd ar 24 Gorffennaf 1991 ar ôl teithio i’r ynys gyda’i fam a’i nain a’i daid.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Matt Fenwick ei fod yn credu ei “bod yn debygol iawn bod rhywun sy’n byw yn Kos heddiw, neu rywun a oedd yn byw yn Kos yn y gorffennol, yn gwybod yr ateb ac yn gwybod beth ddigwyddodd i Ben.

“Rydym eisiau apelio i’r bobl hynny i ddod ymlaen a’n helpu i ddarganfod beth sydd wedi digwydd i Ben.”

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Heddlu De Swydd Efrog eu bod wedi cael arian ychwanegol gan y Swyddfa Gartref i helpu gyda’r chwilio amdano.