Mae mudiad sy’n ymgyrchu dros addysg Gymraeg wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg adnoddau sydd gan ysgolion Cymraeg Caerdydd i groesawu hwyr ddyfodiaid i addysg Gymraeg.

Yn ôl mudiad RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) mae angen cryfhau’r ganolfan iaith i hwyr ddyfodiaid yn y brifddinas a hynny ar ôl i fwy o blant o ysgolion cynradd Saesneg wneud cais i fynd i ysgol uwchradd Gymraeg.

Mae 12 o rieni eisoes wedi cysylltu ag Ysgol Uwchradd Gymraeg Bro Edern, ac mae pump wedi gwneud cais i anfon eu plant i’r ysgol honno, er nad yw’r plant yn siarad Cymraeg.

Mae’n debyg bod hyn wedi digwydd er nad oes diffyg lleoedd i ddisgyblion yn yr ysgolion Saesneg.

Angen ‘paratoi’n drylwyr’

Mae mudiad RhAG wedi rhybuddio, os yw’r ysgol am dderbyn y disgyblion hyn, rhaid paratoi’n fanwl i’w trwytho yn y Gymraeg.

“Ar hyn o bryd, does dim digon o gyfleusterau gyda nhw ar gyfer hwyr ddyfodiaid y sector uwchradd, yn arbennig os yw niferoedd yn cynyddu,” meddai Heini Gruffudd o’r mudiad wrth golwg360.

Dywedodd fod ganSsir Y Fflint adnoddau i sicrhau bod plant yn cael eu trochi am flwyddyn gyfan, ac mai tymor yn unig oedd darpariaeth Cyngor Caerdydd.

“Mae’n beth da bod modd i bobol ddod i addysg Gymraeg yn hwyr, ond allwch chi ddim gwneud hwnna heb fod chi’n trefnu’n fanwl iawn o flaen llaw a bod gyda chi cyrsiau a chanolfan sy’n cynnig addysg drochi iddyn nhw am flwyddyn gyfan.”

Galwodd ar i Gaerdydd gryfhau ei chanolfan iaith i hwyrddyfodiaid, gan ddweud bod yr adnoddau ar gael i blant cynradd, ond nad oedd ar gyfer disgyblion oedran uwchradd.

‘Achub ar bob cyfle’

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r cyhoeddiad bod mwy o blant di-gymraeg yn mynychu Ysgol Uwchradd Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd – gan ei weld fel “cyfle” i ehangu addysg Gymraeg.

“Dylen ni, yn ein prifddinas a ledled ein gwlad, anelu at addysg Gymraeg i bawb nid i’r rhai ffodus yn unig,” meddai Toni Schiavone ar ran y Gymdeithas.

“Os ydyn ni am wireddu’r weledigaeth honno, dylid achub ar bob cyfle i ehangu addysg Gymraeg i bobl o bob cefndir, gall fod cyfle i Fro Edern, fel ysgol uwchradd newydd, dreialu cynllun peilot i drosglwyddo plant o addysg cyfrwng Saesneg i’r sector Gymraeg.”

Er hyn, pwysleisiodd fod angen ystyriaeth lawn i adnoddau a chymorth yr ysgol fedru gwireddu hynny.

‘Blaenoriaeth’

Fe ddywedodd Cyngor Caerdydd fod 32 o ddisgyblion ar hyn o bryd o fewn dalgylch yr ysgol heb gael lle yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

“Ar hyn o bryd mae lleoedd ar gael mewn pum ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg ledled y ddinas, gan gynnwys Cathays a Willows,” meddai llefarydd.

“Mae Uned Trochi Cymraeg ar hyn o bryd yn helpu plant i drosglwyddo o addysg gynradd cyfrwng Saesneg i gyfrwng Cymraeg.

“Rydym yn ystyried ffyrdd o helpu’r pum plentyn o Ysgol Gynradd Marlborough sydd wedi gwneud cais i fynd i Ysgol Gyfun Bro Edern ac i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar rieni cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol.

“Mae cynyddu addysg Gymraeg o ansawdd da yn flaenoriaeth i’r ddinas, fel sy’n cael ei nodi yn ein Cynllun Strwythurol i Addysg Gymraeg.”