Wrth i’r ddadl tros ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) boethi, mae rhai o benaethiaid Nato wedi datgan eu cefnogaeth i’r Prif Weinidog, sydd am weld Prydain yn aros yn rhan o’r UE.  

Fe rybuddiodd David Cameron y gallai diogelwch y gorllewin gael ei beryglu pe bai Prydain yn gadael yr UE, ac mae rhai o benaethiaid Nato wedi ategu’r rhybuddion hynny mewn llythyr a gafodd ei gyhoeddi yn y Daily Telegraph.

Mae eu llythyr yn nodi: “Mewn adeg o ansefydlogrwydd byd-eang, a phan mae Nato yn ceisio ailsefydlu ei rôl yn Nwyrain Ewrop, fe fyddai’n anhawster mawr pe byddai’r DU yn rhoi terfyn ar eu haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“O ystyried maint ac amrywiaeth yr heriau i heddwch a sefydlogrwydd, mae angen y Deyrnas Unedig sy’n weithredol ac yn weithgar ar y gymuned Ewro-Atlantig.”

‘Allweddol i ddiogelwch’

Daw hyn wedi i ymgyrchwyr dros adael yr UE wfftio honiadau David Cameron y byddai pleidlais i adael yn amharu ar heddwch y DU. Dywedodd Boris Johnson mai Nato nid Brwsel sy’n allweddol i ddiogelwch.

Mewn araith tros aros yn rhan o’r UE, ategodd David Cameron fod yr undeb wedi “cymodi cenhedloedd rhyfelgar” a’i fod yn chwarae “rôl hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd” (IS).

Yn ogystal, mae 13 o gyn-swyddogion Washington wedi arwyddo llythyr o gefnogaeth i’r ymgyrch aros, ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth o bob gweinyddiaeth y Tŷ Gwyn dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr.