Awyren ddi-beilot (dron)
Mae un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin wedi galw ar y Llywodraeth i esbonio ar fyrder eu polisi cyfreithiol dros gynnal cyrchoedd awyr yn erbyn brawychwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Daw hyn wedi i’r jihadydd o Gaerdydd, Reyaad Khan, gael ei ladd yn Syria ar 21 Awst 2015 gan awyren ddibeilot yn sgil honiadau o frawychiaeth.

Er bod y pwyllgor yn derbyn seiliau cyfreithiol y DU i gynnal cyrchoedd yn erbyn IS mewn ardaloedd o wrthdaro arfog yn Syria ac Irac sy’n atebol i gyfraith Rhyfel – maen nhwn galw am eglurhad i’r un math o weithredoedd mewn rhannau eraill o’r byd lle mae IS yn weithredol.

‘Galw am esboniad’

Wrth gyhoeddi manylion am y digwyddiad yn erbyn Reyaad Khan ym mis Medi’r llynedd, dywedodd y Prif Weinidog fod y cyrch yn “ymadawiad newydd.”

Ond, yn ôl y pwyllgor, roedd Cynrychiolydd Parhaol y DU yn y Cenhedloedd Unedig wedi dweud fod y weithred wedi’i chymryd fel hunanamddiffyniad o Irac.

Dywedodd y pwyllgor fod eu hymchwiliad wedi dod i’r casgliad mai “polisi’r Llywodraeth yw ei fod yn barod i ddefnyddio pwerau angheuol dramor, y tu allan i wrthdaro arfog (yn Libya, er enghraifft) yn erbyn unigolion honedig sy’n cynllunio ymosodiadau brawychol yn erbyn y DU, fel y dewis olaf, pan nad oes unrhyw ffordd arall o atal yr ymosodiad.”

Am hynny, mae’r pwyllgor yn galw am esboniad, yn enwedig i ddaliadau’r DU wrth gynorthwyo cenhedloedd eraill – fel yr Unol Daleithiau  er enghraifft – i ddefnyddio meysydd awyr ym Mhrydain i lansio cyrchoedd yn erbyn IS yn Libya.

Consensws rhyngwladol

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, wrth y pwyllgor fod Llywodraeth y DU yn ystyried ei hun i fod mewn gwrthdaro arfog ag IS yn Irac a Syria yn unig.

Ond, mae’r pwyllgor wedi galw ar y Llywodraeth i ddatblygu ac arwain consensws rhyngwladol ar y mater.

“Wrth ddelio â mater o bwysigrwydd mor uchel lle mae bywyd yn cael ei gymryd i ddiogelu bywydau eraill, dylai’r Llywodraeth fod yn hollol glir o ran eu seiliau cyfreithiol i’r weithred hon,” meddai Harriet Harman, AS Llafur a Chadeirydd y Pwyllgor.