Fe gipiodd Leanne Wood fuddugoliaeth annisgwyl yn y Rhondda, ond pwy o'n darllenwyr ni lwyddodd i ragweld hynny? (llun: Stefan Rousseau/PA)
Fe fydd yn rhaid i ddau o ddarllenwyr Golwg360 rannu’r clod am ddarogan canlyniadau’r etholiadau Cynulliad ddydd Iau ar ôl gorffen yn hafal ar frig ein cynghrair Ffantasi Etholiad.

Cyn y bleidlais ar 5 Mai fe ofynnon ni i chi geisio darogan enillwyr rhai o’r etholaethau yn y ras, gyda phwyntiau bonws hefyd yn cael eu dyfarnu am gael nifer y seddi neu etholaethau cryfaf pob plaid yn gywir.

Ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai enillwyr y gystadleuaeth eleni oedd Jason Morgan a ThompsonParkParty, y ddau’n sgorio 83 o bwyntiau yr un yn ein tabl ni.

Darogan cywir yn yr etholaethau oedd yn bennaf gyfrifol am eu llwyddiant, gyda Jason Morgan yn dewis yr enillwyr cywir mewn etholaethau agos fel Aberconwy, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, a Chanol Caerdydd.

Llwyddodd ThompsonParkParty gyda’i ddarogan hefyd gan ddewis yr enillydd cywir yn etholaethau Aberconwy, Ceredigion, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Llanelli a Bro Morgannwg.

Llongyfarchiadau hefyd i Ap Cunedda, Mr Wogli a Hefin Jos, yr unig rai i ddarogan sioc fwyaf y noson y byddai Plaid Cymru’n cipio sedd y Rhondda oddi wrth Lafur.

Wedi dweud hynny, wnaeth y pwyntiau ddim llawer o wahaniaeth i Mr Wogli a Hefin Jos, y ddau orffennodd ar waelod ein tabl (darogan gormod o ganlyniadau annisgwyl eraill wnaeth ddim digwydd, mae’n rhaid!).

Dyma’r canlyniadau’n llawn, gyda sgôr ar gyfer pob rhan o’r darogan: