Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Fe fydd achos Ched Evans yn cael ei glywed gan Lys y Goron yr Wyddgrug ar ddiwedd y mis ar ôl i’r cyn-bêl-droediwr ennill apêl yn erbyn y dyfarniad gwreiddiol.
Cafodd Evans, 27 oed, ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl yn 2012, ac fe gafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.
Ond mae wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog, a bod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw ag o, a fis diwethaf fe benderfynodd y Llys Apêl i wyrdroi’r dyfarniad ar ôl gwrando ar dystiolaeth newydd.
Bydd cyn-chwaraewr Sheffield United a Chymru nawr yn wynebu ail achos, ar ôl i’r erlyniad ddweud y bydden nhw’n herio penderfyniad y Llys Apêl.
Ers cael ei ryddhau o’r carchar mae Ched Evans wedi ceisio ailafael yn ei yrfa bêl-droed, ond fe benderfynodd clybiau fel Sheffield United ac Oldham beidio â’i arwyddo ar ôl dod dan bwysau gan rai noddwyr a chefnogwyr.
Mae disgwyl iddo fynychu gwrandawiad ar 27 Mai ac yna fe fydd dyddiad ar gyfer yr achos llawn yn cael ei bennu.