Guto Ifan
Guto Ifan sy’n edrych ar bwnc allai gael mwy o amlygrwydd nag arfer yn yr ymgyrch eleni…
Fel ym mhob etholiad y Cynulliad hyd yn hyn, prif bynciau’r etholiad mis Mai fydd y rhai mawr datganoledig megis iechyd, addysg a’r economi.
Unwaith eto, fe fydd addewidion mawr y pleidiau yn ymwneud â sut i wario arian cyhoeddus yn bennaf.
Mae hyn yn deillio o safle anghyffredin Llywodraeth Cymru o fod yn eiddo ar bwerau deddfwriaethol a phwerau gwariant sylweddol, heb gyfrifoldeb sylweddol dros godi arian cyhoeddus hefyd.
Fodd bynnag, bydd datganoli trethi yn y blynyddoedd nesaf yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru cyn hir yn gyfrifol am godi rhan sylweddol o’r gyllideb ei hun.
Mae hyn yn newid hanesyddol i wleidyddiaeth yng Nghymru, ac yn addo ychwanegu haenen newydd a chyffrous i etholiadau’r Cynulliad.
10 ceiniog i Gymru
Cafodd trethi busnes eu datganoli yn llawn eleni. O Ebrill 2018, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol dros y dreth stamp (gwerth tua £168miliwn yn 2014-15), a’r dreth tirlenwi (tua £49miliwn).
Yn fwyaf arwyddocaol, bydd tua £2biliwn o drethi incwm Cymru yn cael eu datganoli, heb yr angen am refferendwm.
Wedi datganoli, bydd 10 ceiniog o bob band treth incwm trethdalwyr Cymru yn mynd yn syth i ariannu Llywodraeth Cymru.
Er enghraifft, fe fydd y rheini sy’n talu’r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yn dechrau talu 10 ceiniog yn y bunt i Lywodraeth Prydain, a 10 ceiniog i Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y rheini sy’n talu’r gyfradd uwch o dreth incwm (rhyw 145,000 o Gymry eleni) yn talu 30 ceiniog yn y bunt i Lywodraeth Prydain, a 10 ceiniog i Lywodraeth Cymru.
Y ‘dreth siwgr’
Bydd hyn yn galluogi i wleidyddion Cymru amrywio cyfraddau treth incwm. Fe fydd amrywio’r cyfraddau treth yn cael effaith uniongyrchol ar y gyllideb, yn ogystal ag effeithio ar ymddygiad trethdalwyr ag economi Cymru.
Am y tro cyntaf, bydd gwleidyddion yn gallu cynnig lefelau gwahanol o drethi a gwariant cyhoeddus.
Fe fydd gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i greu trethi ‘newydd’ hefyd, er mwyn codi refeniw ychwanegol neu i gefnogi amcanion polisi.
Roedd hi’n debyg mai treth ‘siwgr’ Plaid Cymru fyddai wedi bod y dreth ‘newydd’ Gymreig gyntaf, cyn i George Osborne gyflwyno treth debyg yn ei gyllideb yr wythnos ddiwethaf!
Mae’n bosib y byddai modd datganoli’r dreth yma yn y dyfodol, drwy broses is-ddeddfwriaethol.
Fe fydd hi’n ddiddorol hefyd i weld os fydd un o’r pleidiau Cymreig yn mentro cynnig unrhyw drethi ‘newydd’ eraill yn yr wythnosau nesaf.
Cynyddu atebolrwydd
Dadl rhai yw bod yna ddiffyg aeddfedrwydd a diddordeb yng ngwleidyddiaeth ddatganoledig Cymru i warantu rheolaeth dros dreth incwm. Ond datblygu aeddfedrwydd a diddordeb gwleidyddol fydd un o amcanion datganoli trethi.
Gellid dychmygu y bydd rhai yn dangos tipyn mwy o ddiddordeb yng ngweithgareddau gwleidyddion Bae Caerdydd pan fydd y Llywodraeth yn cymryd swm uniongyrchol o’u cyflog misol!
Yn debyg i sefyllfa’r Alban, llywodraeth Geidwadol yn Llundain sydd wedi gwthio datganoli cyllidol sylweddol i Gymru.
Gellir gweld hyn fel rhan o strategaeth ehangach y Torïaid o gynyddu ‘atebolrwydd’ ariannol ar bob lefel llywodraethol (megis awdurdodau lleol Lloegr), a’u gobaith o wneud polisïau treth yn ganolog i etholiadau datganoledig.
Gostwng trethi?
Roedd cyhoeddiad George Osborne i waredu’r angen am refferendwm dros bwerau treth incwm yn debygol o gythruddo Ceidwadwyr sy’n wyliadwrus o ddatganoli, yn enwedig y rhai a gefnogodd yr ymgyrch ‘Na’ yn refferendwm 2011.
Ond roedd yr amod o refferendwm yn debygol o rwystro datganoli treth incwm am flynyddoedd lawer, gan rwystro’r cyfle i wahaniaethu’r blaid Geidwadol o’r pleidiau eraill, a thorri ‘consensws’ trawsbleidiol Bae Caerdydd.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi datgan eu bwriad o dorri pum ceiniog o gyfradd uwch treth incwm yng Nghymru, a thorri ceiniog i ffwrdd o’r gyfradd sylfaenol hefyd.
Mae’r arweinydd Andrew RT Davies wedi datgan ei fod eisiau troi Cymru yn wlad ‘treth-isel’ y Deyrnas Unedig.
Peryglon
Ond yn ogystal â bod yn ddatblygiad cyffrous i wleidyddiaeth Cymru, fe fydd yna beryglon sylweddol ynghlwm â datganoli cyllidol hefyd.
Y cwestiwn mawr yw sut y bydd system ariannu bresennol Cymru (y ‘bloc grant’ blynyddol o tua £15 biliwn o’r Trysorlys) yn cael ei addasu yn sgil datganoli trethi?
Heb sôn am bolisïau treth y dyfodol a pherfformiad economi Cymru, dyma fydd yn penderfynu effaith datganoli trethi yn y pen draw, a’r cymhellion a fydd yn wynebu Llywodraeth Cymru.
Profodd y flwyddyn gyfan o drafodaethau dros ‘fframwaith cyllidol’ yr Alban y bydd y mater hwn yn bwnc llosg yng Nghymru hefyd, ac yn destun trafodaethau gwleidyddol ffyrnig.
Bydd cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol, a gallai gyflwyno system sy’n anfanteisiol i Gymru olygu toriadau sylweddol i’r gyllideb.
Yn bennaf, mae angen ystyried y peryglon posib fydd tu hwnt i reolaeth gwleidyddion Cymru, megis effaith polisïau treth Llywodraeth Prydain (e.e, codi’r lwfans personol), a’r twf araf ym mhoblogaeth Cymru.
Camau cyntaf
Oherwydd y materion penagored yma, a’r diffyg amserlen bendant, mae’n rhy gynnar i wybod beth fydd effaith datganoli treth incwm ar gyllideb Cymru, heb sôn am effaith newid cyfraddau treth.
Ar hyn o bryd felly, gellid ystyried unrhyw addewidion o’r fath braidd yn gynamserol.
Yn sicr, bydd yna rywfaint o sylw i bolisïau treth yn ystod yr etholiad eleni, ond efallai fydd yn rhaid aros tan y tro nesaf i gael etholiad â thrafodaeth lawn ar sut i godi arian cyhoeddus, yn ogystal â sut i’w wario.
Erbyn 2021, dylai fframwaith cyllidol newydd Cymru fod yn dipyn cliriach, ac wedi ei drawsnewid yn llwyr o’r fframwaith presennol.
Mae Guto Ifan yn Gynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.