George Osborne
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi gwrthod ymddiheuro dros y “camgymeriad” o gyflwyno biliynau o doriadau i fudd-daliadau pobol anabl, yn dilyn ei dro pedol ar y mater.
Cyfaddefodd mai camgymeriad oedd y toriadau a bod y Llywodraeth wedi “gwrando ac wedi dysgu” o bryderon pobol.
Dywedodd hefyd na fydd toriadau pellach yn lle’r toriadau hyn gan fod gwario cyhoeddus bellach “dan reolaeth.”
“Rwyf wedi ei gwneud hi’n glir ein bod wedi gwneud camgymeriad, pan fyddwn yn gwneud pethau o le, rydym yn gwrando ac rydym yn dysgu,” meddai.
Galw am ymddiswyddiad
Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, cafodd ei herio gan Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau i ymddiheuro i bobol am y toriadau arfaethedig, gyda Changhellor Llafur, John McDonnell, yn galw arno i ymddiswyddo.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf George Osborne yn Nhŷ’r Cyffredin ers i’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, ymddiswyddo o’r Cabinet nos Wener.
Stephen Crabb, cyn-ysgrifennydd Cymru, a ddaeth yn ei le, ac fe wnaeth addewid ddoe na fydd toriadau pellach i’r gyllideb les ym Mhrydain.