Y difrod ym maes awyr Brwsel
Mae o leiaf 34 o bobl wedi cael eu lladd a bron i 200 wedi’u hanafu ar ôl i frawychwyr gynnal ymosodiadau ym Mrwsel heddiw.
Fe fu dau ffrwydrad yn y maes awyr ac un arall yn fuan wedyn ar system drenau Metro’r brifddinas gan ddod a Brwsel i stop unwaith eto, lai na phum mis ers yr ymosodiadau brawychol ym Mharis.
Daw’r ymosodiadau diweddaraf ar ôl i Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn flaenllaw yn yr ymosodiadau ym Mharis ym mis Tachwedd, gael ei arestio ym Mrwsel ddydd Gwener.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.
Dywedodd erlynydd Gwlad Belg Eric van der Sypt bod dau o’r hunan-fomwyr wedi marw ym maes awyr Brwsel a’u bod yn chwilio am drydydd person.
Mae’r awdurdodau wedi rhyddhau llun teledu cylch cyfyng (CCTV) o ddyn maen nhw’n awyddus i ddod o hyd iddo mewn cysylltiad â’r ffrwydradau yn y maes awyr.
Mae mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau mewn rhai o brif feysydd awyr a gorsafoedd Ewrop, gyda heddlu Prydain yn cynyddu eu presenoldeb mewn “lleoliadau allweddol” gan gynnwys porthladdoedd, meysydd awyr a gorsafoedd trenau.
Hunan-fomiwr
Roedd hunan-fomiwr wedi ffrwydro bom ger desg American Airlines ym maes awyr Brwsel gydag adroddiadau bod gwn wedi cael ei danio cyn y ffrwydrad. Mae’n debyg bod bom arall wedi ffrwydro mewn siwtces.
Daeth yr heddlu o hyd i ddau wn Kalashnikov a gwregys ffrwydron oedd heb ffrwydro yn y maes awyr ar ôl yr ymosodiadau. Cafodd trydydd bom ei wneud yn ddiogel prynhawn ma, meddai heddlu Gwlad Belg.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad arall yn fuan wedyn yng ngorsaf Metro Maelbeek, sydd yn agos at adeiladau’r Undeb Ewropeaidd a llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau.
Yn ôl y cyfryngau lleol, cafodd 20 o bobl eu lladd yn y ffrwydrad yng ngorsaf Maelbeek, tra bod 14 wedi’u lladd yn y maes awyr.
Mae’n debyg bod 198 o bobl wedi’u hanafu yn y ddau ymosodiad. Dywed Downing Street bod un person o Brydain ymhlith y rhai sydd wedi’u hanafu.
Bu’r heddlu’n cynnal cyrchoedd ar eiddo y credir sy’n gysylltiedig â thri o bobl sy’n cael eu hamau o’r ymosodiadau.
‘Cyfnod du yn hanes ein gwlad’
Dywedodd Prif Weinidog Gwlad Belg, Charles Michel, bod heddiw’n “gyfnod du yn hanes ein gwlad” gan alw am undod.
“Rydym yn wynebu her, ac mae’n rhaid i ni wynebu’r her anodd yma drwy ddangos undod a dod at ein gilydd,” meddai.
Mae arweinwyr rhyngwladol wedi datgan eu cefnogaeth i Wlad Belg gyda Phrif Weinidog Prydain David Cameron yn dweud bod yr ymosodiadau yn “warthus” ac mae Arlywydd America Barack Obama wedi condemnio’r ymosodiadau yn “erbyn pobl ddiniwed.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod yr ymosodiadau ym Mrwsel wedi ei “arswydo.”
“Rhaid gwrthsefyll melltith terfysgaeth ble bynnag mae’n codi a rhaid sefyll yn gadarn yn wyneb y bygythiad hwn i’n ffordd o fyw.”
Cyngor i beidio teithio i Wlad Belg
Mae’r Swyddfa Dramor wedi diweddaru’r cyngor i deithwyr, ac yn rhybuddio pobl i beidio teithio i Wlad Belg oni bai ei fod yn angenrheidiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street eu bod yn anfon tîm o swyddogion heddlu arbenigol i helpu gyda’r ymchwiliad ym Mrwsel.