Os oedd yr etholaethau newydd ar gyfer etholiad San Steffan y mis diwethaf yn peri dryswch, bydd etholaethau newydd Senedd Cymru yn llythrennol ddyblu’r dryswch hwnnw. Mae hyn oherwydd y bydd pob un o’r 32 etholaeth newydd yn cael ei hefeillio ag etholaeth gyfagos i greu 16 o etholaethau dwbl.

Bydd chwe aelod wedyn yn cael eu hethol ym mhob un o’r etholaethau dwbl hyn wedyn – er mai dim ond un bleidlais yn byddwn ni’n ei chael – i ffurfio cyfanswm o 96 o aelodau newydd o’r Senedd.

Math o system o gynrychiolaeth gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio i ethol y chwe aelod. Er y bydd yn debygol o sicrhau trefn fwy cynrychioladol o ran y pleidiau a gaiff eu hethol, bydd llawer yn dibynnu ar hap a damwain ynddi.

Y gwahaniaeth mwyaf rhyngddi a’r drefn bresennol o ethol aelodau rhanbarthol fydd na fydd unrhyw bleidlais yn cyfrif dim y tu allan i’r etholaethau newydd hyn. Gall nifer yr aelodau y bydd unrhyw blaid yn eu hethol ddibynnu cryn dipyn ar allu’r blaid honno i dargedu’r etholaethau lle gall ychydig yn rhagor o bleidleisiau wneud fwyaf o wahaniaeth. Gall pa etholaethau a fydd yn cael eu paru â’i gilydd hefyd gael effaith hynod o arwyddocaol ar gyfanswm terfynol aelodau pob plaid.

Er na fydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau yn cyhoeddi eu cynigion ar gyfer yr etholaethau newydd hyn tan y mis nesaf, mae sawl un eisoes yn amlwg.

Meini prawf

Mewn erthygl bythefnos yn ôl ar golwg360, roedd Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, yn esbonio rhai o’r meini prawf ar gyfer efeillio, gan gynnwys eu bod yn cyffinio a bod cyswllt ffyrdd uniongyrchol rhyngddynt. Mae’n awgrymu hefyd y bydd ymgais i gadw at ffiniau siroedd.

Yn ogystal, wrth esbonio mai’r bwriad fydd efeillio Môn â Bangor Aberconwy, rhoddodd ddarn cyntaf allweddol y jig-sô inni a thrwy hynny ddangos yn glir sut y bydd llawer o’r darnau eraill yn disgyn i’w lle.

Os bydd Bangor Aberconwy gyda Môn, yr unig etholaeth y gall Gogledd Clwyd uno â hi fydd Dwyrain Clwyd. Bydd Alun a Glannau Dyfrdwy wedyn heb unlle ond Wrecsam. Er y bydd yn golygu etholaeth anferthol o ran maint, yr unig ddewis ymarferol fydd uno Dwyfor Meirionnydd â Maldwyn a Glyndwr.

Yn y de-orllewin wedyn, bydd uno Ceredigion Preseli a Canol a De Sir Benfro yn cadw’r ddwy sir gyfan gyda’i gilydd. Wrth uno Caerfyrddin a Llanelli, byddwn hefyd yn cael un etholaeth gyfan i Sir Gâr.

Dyma chwech o’r 16 etholaeth newydd wedi eu datrys felly. Mae’n fwy anodd dyfalu beth fydd yn digwydd yn y de-ddwyrain gan y bydd cymaint mwy o ddewisiadau. Byddai rhywun yn disgwyl ymgais i gadw dinasoedd gyda’i gilydd, fyddai’n golygu uno dwy sedd Casnewydd i ffurfio un ac uno pedair Caerdydd i ffurfio dwy. Ni fydd mor hawdd penderfynu beth i’w wneud ag Abertawe gan fod cysylltiad mor agos rhwng tair sedd – sef Gwyr, Gorllewin Abertawe a Dwyrain Abertawe. Y cwestiwn mawr fydd pa etholaeth fydd yn uno â Brycheiniog a Maesyfed gan fod sawl un a fyddai’n bodloni’r meini prawf. Gallai Sir Fynwy fod yn ddewis amlwg, ond mae cysylltiadau da â Merthyr ac Aberdâr hefyd ac a fyddai’n osgoi gwneud etholaeth rhy fawr.

Rhagolygon y pleidiau

Roedd arolwg barn gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf yn awgrymu na fyddai Llafur yn denu cefnogaeth mwy na chwarter pleidleiswyr Cymru mewn etholiad i’r Senedd. Roedd yn ei rhoi un pwynt yn unig ar y blaen i Blaid Cymru ar 24 y cant.

Gan fod Plaid Cymru’n arferol yn ennill mwy nag 20% yn etholiadau Senedd Cymru, ni ddylai’r ffigur o 24% fod allan o’i chyrraedd. Byddai angen dringo’n llawer uwch na hyn, fodd bynnag, i sicrhau trechu Llafur, gan na allai dibynnu y bydd Llafur yn parhau ar lefel lawn mor isel.

Gallai dosbarthiad ei phleidleisiau hefyd ei gwneud yn rhywfaint anoddach i Blaid Cymru. Wrth ystyried y map gwleidyddol newydd sy’n dod i’r amlwg, byddai’n sicr o gyrraedd y brig yn y pedair etholaeth newydd fwyaf gorllewinol. Gallai ddisgwyl mwyafrifoedd cyffyrddus – ond nid llethol gan y bydd pob un o’i chadarnleoedd wedi eu cyplysu ag etholaeth lle mae’n wanach. Byddai felly’n debygol o ennill dwy sedd, ond nid mwy, ym mhob un o’r pedair etholaeth hyn.

Yng ngweddill Cymru, mae’r rhan fwyaf o’r etholaethau eraill yn ymddangos yn dalcen caled iddi ar hyn o bryd. Byddai angen cyrraedd y brig mewn o leiaf rai ohonyn nhw er mwyn cael nifer uwch o aelodau na Llafur.

Clymblaid yn anochel

Mae’r drefn newydd fwy neu lai’n sicr o wneud llywodraethau clymblaid yn anochel. Bydd y rheini hefyd yn debygol o fod yn wahanol iawn i rai fel Llywodraeth Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011, neu glymblaid David Cameron a Nick Clegg yn 2010.

Bryd hynny, yr hyn oedd gennym oedd prif blaid yn llywodraethu ar y cyd â phartner llawer llai. Nid felly y bydd hi’r tro hwn gan y bydd pa bynnag blaid fydd yn arwain llywodraeth ymhell, bell o fod â mwyafrif, ac yn gwbl ddibynnol ar y partner llai.

A chymryd, fel sydd fwyaf tebygol, mai Llafur fyddai’n arwain y Llywodraeth, gallai hynny roi Plaid Cymru mewn sefyllfa rymus mewn clymblaid. Ar y llaw arall, gallai Plaid Cymru deimlo cymhelliad cryf i gynnal llywodraeth sefydlog yng Nghymru a bod yn fwy parod i gyfaddawdu o’r herwydd.

Pe digwyddai Plaid Cymru i lwyddo i ennill y nifer mwyaf o seddau yn yr etholiad, gallai fod mewn sefyllfa hynod anodd mewn gwirionedd. Byddai’n gwbl ddibynnol ar gydweithrediad Llafur, a allai’n hawdd fod o dan bwysau Llafur yn Llundain i wneud popeth yn ei gallu i danseilio unrhyw lywodraeth Plaid Cymru.

Cryfderau a gwendidau

Ar yr ochr gadarnhaol, mae am fod yn beth da na fydd gan unrhyw blaid fwyafrif llwyr dros bawb, ac y bydd yn rhaid i’r pleidiau gyd-drafod.

O ran llywodraethu Cymru heddiw, mae llawer mwy yn gyffredin rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – a’r Gwyrddion os caiff un ei ethol – nag sy’n eu gwahanu. Byddai unrhyw drefn sy’n eu gorfodi i gydnabod hyn ar goedd yn gam ymlaen.

Mae’n ymddangos er hynny fod Llafur a Phlaid Cymru wedi rhuthro i gofleidio’r drefn newydd hon heb ystyried ei goblygiadau’n llawn.

Gallwn fod yn sicr na wnaethon nhw roi ystyriaeth ddigonol i’r posibilrwydd o blaid fel Reform yn tarfu ar yr holl gynlluniau.

Cafodd Reform – a’r Torïaid yn eu sgil – eu chwalu gan drefn hynafol ‘cyntaf i’r felin’ etholiad San Steffan, wrth i’w pleidleisiau gael eu hollti.

Bydd y gwrthwyneb yn wir gyda threfn newydd Senedd Cymru, lle bydd y ddwy blaid ar wahân yn cael cyfanswm llawer mwy o aelodau rhyngddyn nhw na phe bai’r pleidleisiau’n mynd i un blaid.

Mae’n wir y gall Reform chwythu ei phlwc cyn etholiad 2026 – ac na fyddai ganddi efallai gymaint o apêl mewn etholiad Senedd Cymru p’run bynnag – ond allwn ni ddim bod yn sicr o hyn.

A chymryd y bydd cefnogaeth Reform yn parhau ar tua 15 y cant, byddai hynny’n debygol iawn o olygu y bydd Llafur a Phlaid Cymru’n colli eu huwch-fwyafrif cyfunol yn y Senedd. Byddai hynny’n llyffetheirio’r Senedd yn ddifrifol i wneud gwelliannau cyfansoddiadol, er enghraifft.

Gwendid mwyaf y drefn newydd fydd y rhestrau caeëdig lle bydd etholwyr yn gorfod dewis plaid yn hytrach nag unigolion. Gyda dim ond un bleidlais i ethol chwe aelod o’r Senedd, mae’r cyhoedd yn cael eu difreinio i raddau helaeth gan y pleidiau gwleidyddol.

Y peth mwyaf anodd ei ddeall am hyn i gyd ydi’r diffyg ystyriaeth i’r effaith y bydd y rhestrau caeedig yn ei gael ar statws a hygrededd gwleidyddol aelodau’r Senedd.

Mewn erthygl yn y rhifyn diweddaraf o Barn, mae’r Athro Richard Wyn Jones yn cyfeirio at agweddau digon trahaus ymysg aelodau seneddol Llafur Cymru gyda meddylfryd yn eu plith eu bod nhw’n ‘bwysicach’ na’u cymheiriaid yn Senedd Cymru. Dylai fod yn amlwg y bydd yr agweddau hyn yn ganwaith caletach ac yn cael ei mynegi’n gwbl agored ganddyn nhw ar ôl yr etholiad. Fyddan nhw ddim yn brin o’n hatgoffa eu bod nhw wedi cael eu hethol yn uniongyrchol gan ‘y bobol’ tra na fydd aelodau Senedd Cymru ond wedi cael eu dewis gan eu pleidiau.

Ni ellir disgrifio parodrwydd gwleidyddion Senedd Cymru i roi eu hunain yn y fath sefyllfa ond fel twpdra gwleidyddol o’r radd flaenaf.

Llafur sy’n bennaf gyfrifol am y llanast hwn, ond ni all Plaid Cymru chwaith osgoi pob beirniadaeth ar y mater.

Eu dadl nhw ydi mai system pleidlais drosglwyddadwy (STV) – lle mae etholwyr yn cael dewis aelodau yn nhrefn ffafriaeth 1,2 a 3 ac ati – maen nhw’n ei ffafrio, ac mai wedi gorfod cyfaddawdu’r oedden nhw.

Ar yr un pryd, mae rhai o’i gwleidyddion amlwg wedi bod yn seinio clodydd bil arall fyddai’n ei gwneud hi’n orfodol i bob plaid wleidyddol ddewis ymgeiswyr mewn ffordd fyddai’n sicrhau ethol yr un nifer o ddynion a merched.

Gan y byddai bil o’r fath yn gwbl ddibynnol ar barhau trefn rhestrau caeedig, ni allai Plaid Cymru ei gefnogi pe baen nhw o ddifrif o blaid trefn STV.

All Plaid Cymru ddim ei chael hi bob ffordd. Maen nhw naill ai o blaid dewis agored a rhydd i etholwyr neu dydyn nhw ddim. Bydd yn rhaid i’w gwleidyddion ymdrin â’r mater pwysig hwn mewn modd mwy tryloyw os ydyn nhw’n disgwyl gallu ysbrydoli eu cefnogwyr i ymgyrchu drostyn nhw pan ddaw’r etholiad.