Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Anne Cakebread, yr artist, dylunydd ac awdur, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. 

Mae hi’n byw yn Llandudoch, Sir Benfro, ac wedi dysgu Cymraeg. Hi yw awdures y llyfrau poblogaidd Teach your Dog/Cat… gan Y Lolfa. Mae’r llyfr ar gael mewn nifer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg, y Wyddeleg a’r Gernyweg…


Un o fy atgofion cyntaf, mwy na thebyg, yw bwyta Weetabix gyda llaeth cynnes a siwgr yn y gegin gyda fy nhad cyn iddo fynd i’r gwaith. Roeddwn i’n arfer codi’n gynnar bob bore gydag e a thynnu lluniau yn y gegin gyda fy ffelt tips a phapur roedd e wedi dod o’r gwaith.

Roedd fy mam wastad yn coginio – roedd hi’n dod o’r Rhondda a chafodd ei magu mewn teulu mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd fy nhad-cu yn gweithio yn y pwll glo.

Roedden ni’n cael bwyd syml iawn yn y 1970au, yr un fath o fwyd ar bob diwrnod o’r wythnos – cinio dydd Sul, ac wedyn y cig oedd ar ôl yn oer gyda salad ddydd Llun, mae’n debyg bydden ni’n cael rhywbeth fel mins a thatws ddydd Mawrth, golwythion cig oen ddydd Mercher, shepherd’s pie ddydd Iau, fish fingers ddydd Gwener a dydd Sadwrn bydden ni’n cael hadog wedi’i fygu. Ac roedden ni wastad yn cael cyri twrci ar Ŵyl San Steffan.

Mi fyswn i wedi bod tua 11 oed y tro cyntaf wnes i fwyta sbageti. Doedden ni byth yn cael prydau parod na tecawê heblaw pysgod a sglodion pan oedden ni ar wyliau yng Nghei Newydd.

Anne yn paratoi bwyd yn ei chegin

Mae Shepherds Pie a chinio rhost wastad yn atgoffa fi o fy mam – mae unrhyw beth efo tatws newydd yn f’atgoffa o’r haf ac, yn y gaeaf, chilli efo madarch a ffacbys.

Roedden ni bob amser yn bwyta gyda’n gilydd fel teulu, a dw i’n dal i wneud hynny. Dw i dal yn tueddu i goginio’r prydau i gyd gyda’r nos, ond mae’n fwyd hollol wahanol i beth oedden ni’n cael 50 mlynedd yn ôl!

Dw i’n dwlu ar gyri Paneer [caws o India] a phys a dw i’n hoffi mynd allan am fwyd, yn enwedig i gael bwyd Thai. Dw i’n dwlu ar unrhyw beth dw ddim yn gorfod coginio adre a dw i’n caru pysgod. Dw i’n trio peidio bwyta cig achos dyw e ddim yn gwneud i fi deimlo’n dda ers i fi fynd drwy’r menopos. Os oes sewin ar y fwydlen dyna beth fyswn i’n dewis ond dw i’n ei hoffi wedi’i goginio’n syml gyda thatws newydd.

Fy hoff le i fynd i gael bwyd ar gyfer achlysur arbennig yw Yr Hen Printworks yn Aberteifi ond mae tafarn gymunedol y White Hart yn gwneud prydau pop-up felly rydan ni wastad yn trio bwyta yno achos mae’r bwyd yn flasus iawn.

Pasta wedi’i wneud gan Anne

Os dw i’n gwneud bwyd ar gyfer pobl eraill, dw i’n gwneud pasta Putana syml efo ansiofi, neu winwns a halen os oes llysfwytawyr yn y grŵp. Mae’n flasus ac yn hawdd a dw i ddim yn gorfod mynd i banig ac yn gallu mwynhau fy hun. Mae fy mhartner yn gogydd anhygoel felly dw i’n tueddu i osgoi’r coginio a gwneud y tacluso fyny wedyn.