Beth bynnag arall y gellid ei ddweud am Gemau Olympaidd Paris 2024, mae’n rhaid dweud mai Gemau holl bresennol ydyn nhw; nid oes modd eu hanwybyddu, na dianc yn iawn rhagddyn nhw! Felly, a fyddech chwi garediced â rhoi munud fach o’ch amser prin i feddwl gyda mi am y Gemau Olympaidd?!

Un o bennaf ogoniannau person, yn fy marn i, yw ei ysfa anniwall i feistroli ei grefft neu gamp, ac ym myd y campau, y Gemau Olympaidd yw’r llwyfan i ddangos pwy yw pennaf feistr ei gamp. Bu’r mwyafrif yn cystadlu â gobeithion, os nad breuddwydion gwlad yn cynnal a thanio eu hymdrechion, ond mae ambell un yn rhoi gormod o bwys ar ennill y gystadleuaeth ar draul amcan y cystadlu.

Un sydd â’i hanes yn enghraifft o amcan y Gemau Olympaidd yw’r hwyliwr o Ganada, Lawrence Lemieux. Wrth gystadlu dros Ganada yng Ngemau Olympaidd 1988, gwelodd Lemieux fod dau o’i wrthwynebwyr – Joseph Chan a Shaw Her Siew o Singapôr – mewn trafferthion mawr yn y dŵr, wedi i’w cwch droi drosodd. Gollyngodd Lemieux y gwynt o’i hwyliau, cymerodd Chan a Shaw ar fwrdd ei gwch hwylio, a chyrraedd y llinell ymhlith yr olaf, heb obaith am fedal. Pan glywodd y Pwyllgor Olympaidd beth oedd wedi digwydd, cafodd Lemieux ei wobrwyo â medal arbennig – Medal Pierre de Coubertain “for sportmanship”. Wrth ei wobrwyo, dywedodd Juan Antonio Samaranch, cadeirydd y Pwyllgor ar y pryd:

“By your sportsmanship, self-sacrifice and courage, you embody all that is right with the Olympic ideal.”

Dangosodd Lemieux, wrth gyflawni ei ddyletswydd synhwyrol o ofal, fod rhai pethau’n bwysicach nag ennill ‘aur’.

Gan gydnabod mai un fawr yw’r naid o’r Gemau Olympaidd i Alfred, Lord Tennyson, dyma ddarn bychan bach o’i waith:

Yea, let all good things await

Him who cares not to be great.

Os ydwyf wedi llwyddo i gyfleu fy neges yn iawn, mae’r cysylltiad â hanes Lemieux yn amlwg. Perthyn y geiriau i Ode on the Death of the Duke of Wellington. Mae’r bardd yn rhamantu ychydig am Wellington – nid sant mo hwnnw o bell ffordd! Ond mae yna apêl yng ngeiriau clo’r gerdd:

Not once or twice…

The path of duty was the way to glory.

Bu llawer o sôn – hyd syrffed, a dweud y gwir – am effaith hirdymor Gemau Olympaidd Llundain ’nôl yn 2012. Legacy oedd y gair ddefnyddiwyd o hyd fyth. Gellid cael gwaeth legacy i’n byw a’n bywyd, mae’n siŵr gen i, na’n bod ni’n mabwysiadu geiriau Tennyson:

the path of duty is the way to glory.