Bu Edward Morus Jones yn rhan o ddeuawd bop enwog iawn. Ond mae llawer mwy i’w fywyd na dim ond canu wrth ochr Dafydd Iwan…

Dafydd Iwan ac Edward. Mae nifer fawr ohonon ni sy’n hoffi canu pop cynnar Cymraeg yn gyfarwydd â’r bartneriaeth gerddorol yna.

Cyhoeddodd Dafydd Iwan ei hunangofiant cyntaf yng Nghyfres y Cewri nôl yn 1981, a gwnaeth sawl llyfr arall ers hynny. Tro Edward, neu Edward Morus Jones, yw hi eleni, ac mae newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Mae’n Wlad i Mi, gyda Gwasg Carreg Gwalch. Mae’n gofnod o fywyd wedi byw i’r eitha’, yn mynd â ni o gefn gwlad Meirionnydd wledig, Gymraeg i’r cymoedd ôl-ddiwydiannol yng nghyfnod Aberfan.

Treuliodd Edward Morus Jones ei yrfa yn bennaf fel athro ac yn brifathro dylanwadol – mewn ysgolion ym mro Morgannwg, yn Rhydymain ac yn Llandegfan, Môn. Ond gwnaeth gyfraniad i sawl agwedd arall ar y bywyd a’r diwylliant Cymraeg drwy Gymru. Ymhlith y rhain mae’r gwaith mawr y bu’n rhan ohono wrth sefydlu Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, y mae ei hanes yn y llyfr.

Cafodd ei eni yn Llanuwchllyn yn 1944, a dechreuodd ganu ar gitâr yn ei arddegau cynnar. Llwyddodd i brynu ei gitâr gyntaf drwy gyfnewid ffidil a oedd wedi’i chael mewn ewyllys gan gyfaill i’r teulu.

Penderfynodd Edward Morus Jones a’i ffrind pennaf yn y cyfnod yma, Arthur Morus, un o frodyr Dafydd Iwan, ei fod am gyfnewid y ffidil am offeryn a oedd yn llawer mwy poblogaidd ar y pryd.

“Ro’n i wedi dechre mwynhau sŵn gitâr ac ymddiddori yng ngherddoriaeth y cyfnod,” meddai wrth Golwg. “Dyma ran-gyfnewid y ffidil am y gitâr gyntaf erioed yn Aberystwyth, yn Wheatley’s Music Warehouse. Roedd hi’n costio o leia’ £15, ac roedd hi’n andros o gitâr ddrud yr adeg honno.”

Fe fyddai’n cael llwyddiant yn canu ar y gitâr yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi yn Ysgol Ramadeg y Bala yn canu ‘Mari’, un o ffefrynnau Bob Roberts Tai’r Felin. Dechreuodd fynd i weithio yng ngwersyll Glan-llyn a daeth yn un o’r criw a fyddai’n diddanu gyda’r hwyr yn canu gyda gitâr, gyda rhai fel Dafydd Iwan, Huw Jones, a Helen Wyn (Tammy Jones wedyn). Edward gafodd y dasg yn 1968 o gasglu deunydd i gofnodi’r cyd-ganu ar gyfer record hir i Qualiton Records, Caneuon Gwersyll Glan-llyn, gyda thros gant o gerddorion a chyfeilyddion.

Deuawd enwog

Pan gafodd Dafydd Iwan wahoddiad gan gwmni Teldisc yn 1966 i recordio rhai o’i ganeuon, yr un amlwg i ofyn iddo ymuno ‘yn yr antur fawr’ oedd Edward, â’i ‘gitâr 12-tant!’ Ar y pryd roedd Edward yn athro yn ardal Pontypridd, a Dafydd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.

Meddai Dafydd Iwan yn ei ragair i’r hunangofiant: ‘Perthynas fel yna fuodd rhyngom drwy gydol ein cyfnod fel deuawd, cyfarfod ar dro, a gadael i’r caneuon ganfod eu llwybrau eu hunain, gydag Edward yn harmoneiddio yn ôl yr angen, weithiau yn uwch na mi, weithiau yn is, ac weithiau’n unsain.’

Yr hyn mae’r ddau ohonyn nhw’n fwyaf balch ohoni yw cyfres o ganeuon i blant, Cwm Rhyd-y-Rhosyn. Mae’r record Yn ôl i Gwm Rhyd y Rhosyn wedi dal ei thir ers cael ei chyhoeddi yn 1977, dilyniant i’r record gyntaf a wnaeth y ddau, Fuoch chi Rioed yn Morio? yn 1973. Eleni ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd, cafodd blant Cymru’r cyfle i droedio ar hyd llwybr rhyngweithiol Cwm Rhyd-y-Rhosyn – syniad a gafodd ei dreialu gyntaf ar faes yr Urdd eleni gan Fenter Iaith Maldwyn.

Un o ganeuon mwya’ poblogaidd Dafydd Iwan ac Edward yw ‘Mae’n Wlad i Mi’. Yn y llyfr mae Edward yn sôn fel yr oedd wedi trosi’r gân i’r Gymraeg o fersiwn wreiddiol Woody Guthrie, ‘This Land is Your Land’ ar gyfer Triawd y Normal yn y coleg ym Mangor – triawd bu’n rhan ohoni gyda dwy ferch o Ynys-y-bwl, Caryl a Margaret. Margaret oedd wedi dod â chân Woody Guthrie i’w sylw am y tro cyntaf. ‘Triawd y Normal a ganodd ‘Mae’n Wlad i Mi’ am y tro cyntaf erioed ar lwyfan ac ar y radio,’ eglura yn y llyfr.

Geiriau ychydig yn wahanol sydd ar fersiwn enwog record Dafydd Iwan ac Edward yn 1966, Mae’n Wlad i Mi. Yn y stiwdio recordio, allai Edward yn ei fyw â chofio’r holl benillion, a rhaid oedd eu hailgyfansoddi. Dafydd Iwan felly biau’r rhan fwyaf o eiriau’r gân gyfarwydd, ond mae Edward wedi cynnwys geiriau’r ddau fersiwn yng nghefn y llyfr.

Erbyn diwedd y 1960au, pan roedd Edward yn dechrau ar ei ail swydd ddysgu yn Ysgol Bryntaf Caerdydd, roedd Cymry Cymraeg yn ei adnabod wrth ei enw cyntaf, mewn eisteddfodau, nosweithiau llawen a chyngherddau.

Dim sôn am Mary Hopkin?

Un stori ddifyr o fywyd Edward Morus Jones nad yw wedi ei gynnwys yn y llyfr yw hanes y record fer a wnaeth gyda’r gantores enwog o Bontardawe, Mary Hopkin, ar label Cambrian yn 1968. Ar yr EP maen nhw’n canu’r ddeuawd ‘Rhywbeth Syml’, cyfieithiad o gân Frank a Nancy Sinatra, ‘Something Stupid’, ac ar y clawr mae’r ddau yn dal dwylo’i gilydd o dan goeden. Rhwng y diwrnod recordio a’r cyhoeddi, roedd Mary Hopkin wedi dod yn enwog, ar ôl gweithio gyda Paul McCartney a’r Beatles. Mae Edward wedi sôn ar raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru mai ar ddiwrnod cyhoeddi’r EP y dyweddïodd ef a’i wraig Gwyneth. Pam nad oedd wedi rhoi’r hanes yma yn y llyfr?

“O, do’n i ddim eisio rhoi’r argraff fy mod i…” meddai cyn newid cywair. “Mae Dafydd yn golygu mwy i fi, er bod Mary Hopkin wedi anfon cyfarchion neis i mi dros y blynyddoedd a ’mod i wedi mwynhau gwneud y recordiad yma. Os medrwch chi ei ffeindio hi yn rhywle, mae hi’n eitha’ da.”

Seren ryngwladol sydd yn cael mensh yn y llyfr yw’r canwr clasurol Aled Jones, sy’n enwog am ganu ‘Walking in the Air’. Edward a roddodd y cyfle cyntaf i Aled, a oedd yn ddisgybl iddo yn Ysgol Llandegfan, ganu ar deledu am y tro cyntaf erioed.

Addysg ac Aberfan

Swydd lawn gyntaf Edwards Morus Jones oedd yn Ysgol Iau Ynys-boeth rhwng Abercynon a Penrhiwceibr yng Nghwm Cynon. Roedd hi’n ysgol Saesneg ei hiaith mewn ardal ddifreintiedig, ac Edward wedi ei benodi’n un o ddau Welsh Specialist newydd ar staff o wyth yn yr ysgol. Medd yn y llyfr: ‘Dwi’n edmygu hyd heddiw y blaengaredd rhyfeddol a ddangosodd Cyngor Sir Morgannwg y 1960au… Mae’n rhaid bod, yng nghoridorau Saesneg y Cyngor bryd hynny, ddylanwadau tawel ond grymus wrth waith a oedd am chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg yn yr ysgolion.’

Rai wythnosau ar ôl iddo ddechrau yno, digwyddodd un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn ein hanes. Mae Edward yn cofio’r “bore tywyll, smwclyd” ym mis Hydref 1966 a’r prifathro yn dod i mewn a dweud wrth yr athrawon: ‘Mae rhywbeth mawr wedi digwydd, bois – mae peryg bod yna bobol wedi eu lladd mewn ysgol’. Roedd 116 o blant Ysgol Pantglas, Aberfan, tua phedair milltir o Ynys-boeth, wedi marw oherwydd tirlithriad o domen gwastraff glo. Treuliodd yr athro ifanc y noson honno ‘mewn sioc’, ar ei ben ei hun yn ei lety yn 175 Ffordd Abercynon.

“Mae yna bethe mewn bywyd sy’n diffinio eich bywyd chi rywsut,” meddai. “Yn bendant, aeth fy ngofal i am blant a’u lles yn fwy nag erioed, yn ddistaw bach.”

Gweithredu dros yr iaith

Difyr yw darllen am Edward Morus Jones fe a’i wraig Gwyneth yn mynnu cael tystysgrif priodi yn Gymraeg, gan wrthod un uniaith Saesneg. Bu sylw yn y wasg, gyda phennawd yn debyg i ‘Pop Star refuses English only marriage certificate’, sydd yn ‘gyfraniad bach at ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn y cyfnod,’ meddai yn y llyfr. Yn sgîl hyn, daeth tystysgrifau cyfrwng Cymraeg i fodolaeth tua chanol y 1970au.

Fe wynebodd y ddau gyfnod dan glo, ar ôl paentio dros arwydd ffordd ‘Conway’ ym Metws-y-Coed yn rhan o’r ymgyrch arwyddion. Ond talodd rhywun y ddirwy ar eu rhan – nid yw’n gwybod hyd heddiw pwy wnaeth. Bu farw Gwyneth yn 68 oed yn Rhagfyr 2012, a’r ddau wedi rhannu 44 mlynedd o fywyd llawn gyda’i gilydd.

Ers 2016, mae wedi ailbriodi â dynes o’r Unol Daleithiau, Mary – yr oedd ei hynafiaid wedi symud i Bensylfania gyda Chrynwyr Meirionnydd yn niwedd y 17fed ganrif.

Cyfnod “anodd anodd anodd” yn Nant Gwrtheyrn

Bu Edward Morus Jones yn rhan “o’r dechrau” o ddatblygu Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn gyda’r sefydlydd, y meddyg Carl Clowes, a fu’n ysbrydoliaeth i lawer.

“Ro’n i yn Nant Gwrtheyrn achos fy mod i yn cael llwyddiant yn dysgu Cymraeg i bobol, nid dim byd i wneud efo adeiladu ac ailstrwythuro pentref ac yn y blaen,” meddai. “Ond ges i fy landio ynddo fo ac yn y diwedd yn troi’n Gadeirydd mewn cyfnod anodd, anodd, anodd. Ond mi ddaethon ni drwyddi hi.

“Does dim byd yn rhoi balchder mwy i mi rŵan, yn gweld Nant Gwrtheyrn ar ei newydd wedd. Nid yw cweit yr un fath â’i bwrpas pan oedden ni’n gweithio’n galed arno fo ac yn rhoi ein holl arian sbâr, a mwy na hynny – mi wnaethon ni aberthu dipyn i Nant Gwrtheyrn. Mi gefais fy llusgo mewn iddo fo, ond erbyn hyn dw i’n falch fy mod i wedi gwneud, yn groes i ddymuniad fy ngwraig a fy nheulu ar y pryd. Roedd hi’n gymaint o fenter beryglus yn ariannol i ymddiriedolwyr.”

Dylanwad ar ei fab, arweinydd Plaid Cymru

Ym mlwyddyn Etholiad Cyffredinol 1974, roedd Dafydd Elis-Thomas yn sefyll yn enw Plaid Cymru dros etholaeth Meirionnydd. Ac yntau newydd ddechrau swydd athro yn Ysgol Rhydymain, doedd Edward ddim yn meddwl byddai’n ddoeth iddo fod yn rhan o’r ymgyrchu gwleidyddol. ‘Fodd bynnag roedd sawl ffordd o gynorthwyo’r ymgyrch i ethol Dafydd,’ meddai yn y gyfrol.

Fe fyddai’n arfer gadael yr ysgol ar ôl i’r plant a’r athrawes fynd adre, ac yn mynd i Swyddfa’r Etholiad yn Nolgellau ac yn ‘gweithio o’r golwg am ddwyawr neu dair’. Byddai Gwyneth a’r plant yn taro heibio. ‘Byddai Awen a Rhun wedyn yn cyrraedd yn ôl adre cyn amser gwely ac yn estyn am bapurau, amlenni a ffôn yn Nhŷ’r Ysgol er mwyn ‘chwarae swyddfa’r Blaid!’ Mae’n amlwg i hyn fod yn ddylanwad cynnar ar Rhun.’

Rhun ap Iorwerth yw Arweinydd Plaid Cymru ers 2023. Mae Edward yn sôn am ei falchder am lwyddiannau ei fab yn y llyfr, yn ogystal â’i ferch Awen Iorwerth, sy’n llawfeddyg.

“Dw i’n mynd i gyplysu enw fy niweddar wraig fan hyn,” meddai. “Ro’n ni’n dau yn ymwybodol o gyfraniad i gymdeithas. Ro’n i yn gweithio ar wahanol lefelau, boed yr Urdd, y Blaid, Nant Gwrtheyrn, capeli ac ati. A Gwyneth wedyn, a oedd yn berson swil i ddechre, ond yn berson galluog yn academaidd… Dw i’n gallu dweud, yn ostyngedig, dw i’n meddwl bod yna lot o Gwyneth yn Rhun, ac Awen, a dipyn bach ohonof i, gobeithio. Maen nhw’n bobol gyhoeddus, ond maen nhw’n leicio cyfathrebu. Dyna sy’n bwysig, eich bod chi’n cael eich neges drwodd.”

 

  • Mae’n wlad i Mi, Gwasg Carreg Gwalch, £8.99