Brawychus oedd gweld yr holl ymladd ar strydoedd Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiweddar, yn dilyn llofruddiaeth torcalonnus tair merch ifanc mewn parti dawnsio yn Southport.

Nid oes unrhyw reswm na chyfiawnhad dros ymddygiad o’r fath. Nid dyma’r ffordd i brotestio neu fynegi barn. Yn hytrach, mae’n arwain at godi tensiynau a chreu mwy o ofn a phryder o fewn cymunedau.